Neidio i'r prif gynnwy

Cyngor Cymuned Manordeilo a Salem

Cofnodion

2020
  • Rhagfyr 2020

    Cynhaliwyd cyfarfod Cyngor Cymuned Manordeilo a Salem o bell ar Zoom am 7.30pm ar y 9fed Rhagfyr 2020.


    PRESENNOL

    Cynghorwyr Alun Davies, Arwel Davies, Kim Davies, Gwenfyl Evans, Peter Harries, William Loynton, Owen Williams a’r Cynghorydd Sir Joseph Davies.

    1. CROESO AC YMDDIHEURIADAU

    Cymerwyd y Gadair gan y Cyng. O. Williams a chroesawodd bawb i’r cyfarfod. Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Hubert Gwynne, Doris Jones ac Andrew Thomas.

    2. CADARNHAU COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL

    Cynigiwyd gan y Cyng. W. Loynton, eiliwyd gan y Cyng. K. Davies ac roedd pawb yn unfrydol bod cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar yr 11eg Tachwedd 2020 fel ag y maent wedi’u teipio a’u dosbarthu yn gywir.
    Cadeirydd i’w harwyddo.

    3. DATGANIADAU O DDIDDORDEB

    Derbyniwyd datganiad o ddiddordeb gan y Cyng. J. Davies yn Eitem Agenda 7 Cais Cynllunio PL/00462 (ei swyddogaeth fel Cynghorydd Sir). Derbyniwyd datganiad o ddiddordeb gan y Cyng. K. Davies yng Nghais Cynllunio PL/00462 (aelod o’r teulu sydd wedi paratoi’r cynlluniau).

    4. MATERION YN CODI

    4.4. 4.4.4.4.4.4.5xi) Mae’r gwaith o brynu hysbysfwrdd wrth Centraframe mewn llaw. Cyng. Alun Davies

    44.4.4.4.11i) Mae’r Clerc wedi cysylltu â ‘DC Engineering’ parthed dwy goeden onnen sydd wedi’u heintio â ‘ash dieback’ yng Nghaledfwlch. Maent wedi cytuno i dorri a gwaredu’r coed yn rhad ac am ddim, Clerc i sicrhau bod y trefniadau hyn yn eu lle. Clerc

    4.5vii) Y Cyng. P. Harries i wneud ymholiadau parthed archwilio’r diffibliwyr a bydd yn holi’r Frigâd Dân lleol ynglŷn â’r ffordd orau o wneud hyn. Cyng. P. Harries

    4.8 Mae’r Cyng. J. Davies wedi siarad â thirfeddiannwr y tir gerllaw’r Gofeb yn Nhaliaris. Cytunodd y gellir torri’r onnen ifanc. Cytunwyd y dylid gwneud y gwaith hwn yn y gwanwyn a bydd y Cyng. Alun Davies yn ei gydlynu. Cyng. Alun Davies

    5. GOHEBIAETH

    i) Cyngor Sir Gâr (C.S.G.) Swyddog Gwasanaethau Etholiadol, yn hysbysu nad oes cais wedi’i dderbyn ar gyfer cynnal etholiad ac y gall y Cyngor nawr gyfethol Cynghorydd yn lle’r un wnaeth adael. Cynigiwyd gan y Cyng. J. Davies, eiliwyd gan y Cyng. P Harries ac roedd pawb yn unfrydol y dylid hysbysebu’r lle gwag gyda dyddiad cau ar y 29ain Ionawr 2021, i’w ystyried yng nghyfarfod mis Chwefror. Clerc

    ii) C.S.G. hysbysiad cau ffordd dros dro Cwmdu (Tach 2020) a Chapel Isaac (Chwef 2021). Nodwyd

    iii) Swm Priodol o dan Adran 137(4) (A) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 – Gwariant Adran 137 y Terfyn ar gyfer 2021-22. Yr uchafswm y gellir ei wario fydd £8.41 am bob etholwr. Nodwyd

    iv) Heddlu Dyfed-Powys a Chomisiynydd yr Heddlu parthed arolwg ar flaenoriaethau plismona ac ariannu. Gwefan

    v) Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, arolwg parthed gwasanaethau fferyllol cymunedol. Gwefan

    vi) Un Llais Cymru gwybodaeth yn cynnwys casgliadau’r arolwg aelodau, Bwletin newyddion, Cylchlythyr Etholiadau Llywodraeth Cymru a Dyfodol Cymru, y Cynllun Cenedlaethol 2040. Nodwyd

    vii) Sioe Llandeilo, cais am gymorth ariannol. Chwef

    viii) Gwybodaeth Canser a Gwasanaethau Cefnogi, cais am gymorth ariannol. Chwef

    ix) Diweddariadau rheolaidd gan Lywodraeth Cymru a C.S.G. parthed y Coronafeirws i’w hanfon yn uniongyrchol at Gynghorwyr

    5B. DATBLYGIADAU UN BLANED

    i) Barn y Cyngor ar Ddatblygiadau Un Blaned (DUB) fel y mynegwyd yng nghynnwys y llythyr a anfonwyd yn y cyfarfod diwethaf at: C.S.G. Pennaeth Cynllunio Ms Llinos Quelch: Mr Adam Price AS: Mr Jonathan Edwards AS: Ms Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a hefyd at Arolygiaeth Gynllunio Llywodraeth Cymru.

    ii) Derbyniwyd ymateb gan Jonathan Edwards AS ac fe’i ddarllenwyd yn y cyfarfod. Hysbyswyd gan Mr Edwards ei fod ef a C.S.G. eisoes wedi galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu’r polisi ac i ystyried gosod moratoriwm ar geisiadau DUB tra bod adolygiad yn cael ei gynnal. Ymateb Llywodraeth Cymru hyd yn hyn yw na fyddant yn adolygu’r polisi.

    iii) Parthed y cais am Ddatblygiad Un Blaned ar dir rhwng Caergroes a Chwmgwern, mae’r Cyngor Cymuned eisoes wedi’i wrthwynebu, mae gohebiaeth wedi’i dderbyn wrth yr ymgeisydd sy’n mynd i’r afael â’r pwyntiau a godwyd yn y gwrthwynebiad, a chafodd ei ddarllen yn y cyfarfod.

    iv) Mae llythyr hefyd wedi’i dderbyn gan aelod o’r gymuned yn gwrthwynebu’r datblygiad gan fynegi ei siom bod y Cynghorydd Sir lleol wedi ymatal yng nghyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio lle roedd y cais hwn yn derbyn ystyriaeth. Esboniodd y Cyng. J. Davies er iddo siarad yn y drafodaeth cyn y pleidleisio yn amlinellu ei wrthwynebiad a’i bryderon, er hynny mae’n gais cynllunio dilys sy’n dod oddi fewn i bolisïau cynllunio cyfredol a chyfarwyddebau Llywodraeth Cymru. Tra na allai bleidleiso o’i blaid, nid oedd yn teimlo y gallai wrthwynebu’r cais am y rhesymau uchod.

    v) Ystyriwyd bod monitro pob DUB yn bwysig er mwyn sicrhau bod yr amodau yn cael eu cwrdd a bod hyfywedd y fath ddatblygiadau yn cael eu profi.

    6. ADOLYGIAD O’R GYLLIDEB

    Doedd yna’r un gyfriflen banc wedi’u derbyn mewn pryd ar gyfer y cyfarfod.

    7. CYNLLUNIO

    Unwaith eto fe wnaeth y Cyng. J. Davies a’r Cyng. K. Davies ddatgan diddordeb yng Nghais Cynllunio PL/00462 ac ni wnaethant gymryd rhan yn y drafodaeth na’r penderfyniad.

    Cytunwyd ar y canlynol yn unfrydol:

    • PL/00462
      Cynllunio adolygol am adeilad at ddibenion bridio cŵn
      Greenview
      Llandeilo
      SA19 7LD

      GWRTHWYNEBIADAU

      Mynegwyd pryder gan y Cyngor am:

      1. Lefel y sŵn fyddai’n cael ei greu a’r aflonyddwch ar gartrefi cyfagos a hefyd am brosesu’r elifion.
      2. Mae’r strwythur wedi’i godi heb y caniatâd cynllunio angenrheidiol a bod angen monitro’r math hyn o ddatblygiadau’n llym i sicrhau lles anifeiliaid.
    • PL/00625
      Newid Defnydd o Amaethyddol i Amaethyddol a Hamdden (2 pod)
      Tir i’r De o Golwg Y Mynydd
      Llandeilo
      SA19 7LN
      DIM SYLWADAU
    • PL/00869
      Amgáu Feranda sydd eisoes yn bodoli ac adeiladu Garej i Ochr Dde’r Byngalo
      ‘The Argees’
      Salem
      Llandeilo
      SA19 7LT
      DIM GWRTHWYNEBIADAU

    8. GWEFAN

    Adroddwyd gan y Cyng. O. Williams bod y gwaith ar y wefan newydd bron ar ben ac y dylai gael ei gorffen yn swyddogol yn ystod yr wythnosau nesaf. Y gobaith yw y bydd Mr Andy Mabbutt yn rhoi cyflwyniad ar y wefan newydd i’r Cynghorwyr yn ystod cyfarfod mis Ionawr. Cyng. O. Williams

    9. CYFRIFON I’W TALU

    i) Syrfewr JED Cyfyngedig, gwasanaeth cyfieithu, Siec Rhif 1382 £368.59

    ii) Mrs Jane Davies, Cyflog y Clerc ar gyfer mis Rhagfyr, Siec Rhif 1383 £450.00

    CYFANSWM = £818.59

    10. UNRHYW FATER ARALL

    i) Holodd y Cyng. K. Davies a fyddai gan y Cyngor ddiddordeb mewn cymryd rhan yn Rhaglen Plannu Prydain, cynllun cenedlaethol a gefnogir gan Ei Fawrhydi Tywysog Cymru, i blannu coed ifanc. Penderfynwyd bod hyn yn syniad gwych ond yn anffodus nid yw’r Cyngor yn berchen ar unrhyw dir y gellid ei ddefnyddio. Hysbyswyd gan y Cyng. P Harries bod cynllun eisoes mewn lle i blannu 30 o goed ar dir yr Ymddiriedolaeth Coetir gerllaw Neuadd Bentref Salem. Cytunwyd i osod gwybodaeth ar wefan y Cyngor ac ar y llwyfannau cyfryngau cymdeithasol. Gwefan

    ii) Yng ngoleuni’r sefyllfa bod Covid 19 yn gwaethygu yn y Sir a’r cynnydd o ran pwysau ar y GIG, cynigiwyd gan y Cyng. Alun Davies, eiliwyd gan y Cyng. J. Davies ac roedd pawb yn unfrydol y byddai’r Cyngor yn trefnu dosbarthu prydau bwyd i staff sy’n gweithio ar y Wardiau Covid, Dewi a Cadog yn Ysbyty Glangwili. Arwydd o werthfawrogiad fyddai hyn o waith staff y GIG ar ran cymunedau Manordeilo a Salem. Cytunwyd fel y tro o’r blaen i brynu 48 pecyn bwyd wrth ‘MaryEllen’s’ yn Llandeilo ar gost o £200. Cyng. O. Williams/Clerc

    iii) Mae’r Cyng. O. Williams a’r Clerc yn y broses o gynhyrchu Adroddiad chwe mis. Cyng. O. Williams/Clerc

    Gan nad oedd rhagor i’w drafod, diolchodd y Cadeirydd i aelodau am fynychu a dymunodd Nadolig a Blwyddyn Newydd Dda llawen a diogel i bawb. Daeth y cyfarfod i ben am 9.30pm.

    13eg Ionawr 2020
    CADEIRYDD

  • Tachwedd 2020

    Cynhaliwyd cyfarfod Cyngor Cymuned Manordeilo a Salem o bell ar Zoom am 7.30pm ar yr 11eg Tachwedd 2020.


    PRESENNOL

    Cynghorwyr Alun Davies, Arwel Davies, Kim Davies, Gwenfyl Evans, Peter Harries, Doris Jones, William Loynton, Andrew Thomas, Owen Williams a’r Cynghorydd Sir Joseph Davies.

    1. CROESO AC YMDDIHEURIADAU

    Cymerwyd y Gadair gan y Cyng. O. Williams a chroesawodd bawb i’r cyfarfod.

    2. CADARNHAU COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL

    Cynigiwyd gan y Cyng. W. Loynton, eiliwyd gan y Cyng. K. Davies a chytunwyd yn unfrydol bod cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar y 14eg Hydref 2020 fel ag y maent wedi’u teipio a’u dosbarthu yn gywir.
    Cadeirydd i’w harwyddo.

    3. DATGANIADAU O DDIDDORDEB

    Fe wnaeth y Cyng. J. Davies ddatgan diddordeb yn Eitem Agenda 7 Cais Cynllunio PL/00489 (yn ei swyddogaeth fel Cynghorydd Sir). Fe wnaeth y Cyng. A. Thomas ddatgan diddordeb yng Nghais Cynllunio PL/0590 (perchennog tir gerllaw).

    4. MATERION YN CODI

    4.4.4.4.4.4.4.4.5iv) Dim ymateb hyd yn hyn gan Gyngor Sir Gâr (C.S.G.) parthed y Tir Comin sydd wedi’i ddynodi yn Salem.

    4. 4.4.4.4.4.4.4.9. Mae llythyr sydd wedi’i ddrafftio gan y Cyng. O. Williams yn amlinellu barn y Cyngor Cymuned ar ddatblygiadau Un Blaned eisoes wedi’i anfon at bob Cynghorydd. Cynigiwyd gan y Cyng. J. Davies, eiliwyd gan y Cyng. W. Loynton ac roedd pawb yn unfrydol y dylai’r llythyr gael ei anfon at yr AS, AC, a C.S.G. Clerc

    4. 4.4.4.4.4.4.5xi) Rhoddodd y Cyng. Alun Davies fanylion a chostau’r hysbysfwrdd a dderbyniwyd wrth Centaframe. Cynigiwyd gan y Cyng. J. Davies, eiliwyd gan y Cyng. Arwel Davies a chytunwyd yn unfrydol i brynu wrth Centaframe oherwydd ei fod yn rhoi gwell gwerth am arian. Cyng. Alun Davies

    4.4.4.4.11i) Cytunwyd y dylai’r Clerc holi Biomass ynglyn â thorri dwy goeden onnen sydd wedi’u heintio â ‘ash dieback’ yng Nghaledfwlch. Clerc

    5vii) Dim ymateb hyd yn hyn wrth Elusen Cariad Heart parthed archwiliadau diffibliwyr. Clerc i wneud ymholiadau. Clerc

    8. Cynhaliwyd Gwasanaeth Sul y Cofio ddydd Sul 8fed Tachwedd, ac oherwydd Covid-19 fe wnaeth hyn gynnwys gorymdaith a seremoni byr wrth y Gofeb, oherwydd bod yr Eglwys yn parhau i fod ar gau i’r cyhoedd. Diolchwyd i’r Cyng. Alun Davies am lanhau o amgylch y Gofeb ac i’r heddlu am reoli’r traffig.

    Awgrymwyd y dylai’r goeden sy’n pwyso dros y gofeb gael ei thorri oherwydd ei bod yn ychwanegu at faint o fwsogl ac alga sy’n tyfu yno a hefyd yr amodau tamp cyffredinol sydd yno ac nid yw hyn yn ffafriol i gyflwr y Gofeb. Y Cyng. J. Davies i holi’r tirfeddiannwr am ganiatâd i dorri’r goeden.

    Cynhaliwyd trafodaethau am y posibilrwydd o greu llwybr troed oddi fewn i’r cae rhwng yr Eglwys a’r Gofeb ond wedi ystyriaeth penderfynwyd nad yw hyn yn ymarferol bosib. Teimlwyd bod y trefniadau cyfredol ar gyfer gwasanaeth a gynhelir unwaith y flwyddyn, gyda’r heddlu’n mynychu i fonitro traffig, yn gweithio’n dda iawn.

    Cynigiwyd gan y Cyng. Alun Davies, eiliwyd gan y Cyng. W. Loynton ac roedd pawb yn unfrydol y dylid rhoi £100 tuag at Apêl Pabi Coch y Lleng Brydeinig Frenhinol. Clerc

    5. GOHEBIAETH

    i) Banc Lloyds Cyfriflen dyddiedig 30ain Hydref 2020 – gweddill o £13,511.78 Nodwyd

    ii) Apêl Nadolig Cyngor Sir Gâr; i’w rhoi ar y wefan a chyfryngau cymdeithasol. Cyng. O. Williams/Clerc

    iii) Archwilio Cymru, trefniadau archwilio sydd ar ddod ar gyfer cynghorau tref a chymuned. Nodwyd

    iv) Un Llais Cymru – gwybodaeth yn cynnwys canlyniadau arolwg a ymgymerwyd ar effeithiolrwydd cyfarfodydd o bell a chyngor ar Gynghorwyr nad ydynt yn mynychu cyfarfodydd. Nodwyd

    v) Prosiect Eden, mae adnoddau ar gael er mwyn hyrwyddo ac annog ysbryd cymunedol yn ystod y pandemig. Nodwyd

    vi) Ail-lenwi Cymu, cysylltu pobl â busnesau i ddarparu cyfleusterau lle gellir ail-lenwi cynhwysddion dŵr yn rhad ac am ddim. Nodwyd

    vii) ‘Traws Link Cymru’, coridor Rheilffordd Strategol Newydd i Orllewin Cymru. Nodwyd

    viii) ‘Cerebral Palsy Cymru’, cais am gymorth ariannol. Chwef

    6. ADOLYGIAD O’R GYLLIDEB

    Y fantolen banc ar y 30ain Hydref 2020 oedd £13,511.78. Mae un siec (Rhif 1379) am £50.00 heb ei chyflwyno eto gan roi ffigwr gwirioneddol o £13,461.78. Nodwyd

    7. CYNLLUNIO

    Derbyniwyd datganiad o ddiddordeb gan y Cyng. J. Davies yng Nghais Cynllunio PL/00489 (ei swyddogaeth fel Cynghorydd Sir) a gan y Cyng. A. Thomas yng Nghais Cynllunio PL/0590 (perchennog tir gerllaw). Ni wnaethant gymryd rhan yn y trafodaethau na phenderfyniadau perthnasol.

    Cytunwyd ar y canlynol yn unfrydol:

    • PL/00489
      Datblygiad Un Blaned
      Tir Rhwng Caegroes a Chwmgwern
      Penybanc
      Llandeilo

      GWRTHWYNEBIADAU

      1. Y farn yw bod y datblygiad yn un anghynaliadwy; yr unig ffynhonnell incwm posib sydd ynghlwm wrth y tir yw tyfu a gwerthu cynnyrch ffres. Ar gyfer agweddau eraill o’r busnes, sef darparu sesiynau therapi cerddoriaeth a sesiynau heicio nid oes angen cysylltiad â darn o dir yng nghefn gwlad.

      2. Mae’r datblygiad y tu allan i’r CDLl a byddai rhoi caniatâd yn annheg ac yn trin eraill sy’n gwneud ceisiadau am anheddau yn anghyfartal, gan ei bod yn orfodol i geisiadau eraill gwrdd â meiniprawf cynaliadwyedd llym cyn rhoi caniatâd a hynny i’r gwrthwyneb i’r gofyniad i brofi cynaliadwyedd ar gyfer datblygiadau Un Blaned wedi i’r caniatâd ei roi.

      3. Byddai’r gwahanol elfennau busnes a awgrymir yn y datblygiad hwn yn creu traffig ar y ffordd a mwy o bobl yn ymweld sy’n achosi pryderon diogelwch ar hyd yr heolydd cul cefn gwlad sy’n arwain at yr eiddo, ac mae’r mannau parcio sydd wedi’u dynodi ar y safle yn annigonol.

      4. Byddai’r datblygiad i’w weld o Barc Dinefwr lle mae degau o filoedd o ymwelwyr yn dod bob blwyddyn.

      5. Marc cwestiwn ynghylch cyflenwadau dŵr a thrydan i’r safle.

      6. Mae sylwadau pellach a rhai sylwadau cyffredinol manylach ar ddatblygiadau Un Blaned sydd hefyd yn berthnasol i’r cais penodol hwn wedi’u cynnwys yn y llythyr sydd wedi’i atodi i’r ebost hwn.

    • PL/00590
      Cais amlinellol ar gyfer Datblygiad Preswyl a Gwaith Cysylltiedig
      Tir i’r Gogledd o Montana
      Heol Talyllychau
      Llandeilo
      SA19 7HR
      DIM SYLWADAU
    • PL/00754
       
      Addasiadau yn fflatiau, estyniad a dau ‘pod’
      Tafarn yr Angel
      Salem
      Llandeilo
      SA19 7LY

      GWRTHWYNEBIADAU

      1. Mae’r datblygiad mewn man canolog ac amlwg ac nid yw’n cydweddu â chymeriad cyfredol y pentref; nid yw’r dyluniad arfaethedig yn empathetig i bensaerniaeth yr ardal.

      2. Mae’r ddau ‘pod’ wedi’u lleoli’n rhy agos at yr anheddau sydd eisoes yno.

      3. Byddai maint y maes parcio yn annigonol gyda’r cynnydd fyddai’n cael ei greu gan bosibiliadau’r busnes newydd hwn. Byddai cwsmeriaid yn cael eu gorfodi i barcio eu cerbydau ar y brif ffordd trwy’r pentref ac fe allai hyn arwain at anawsterau diogelwch a mynediad ar hyd ffordd sydd eisoes yn weddol gul.

      4. Mae’r heol sy’n rhoi mynediad i’r maes parcio eisoes yn gul ac yn anaddas i’r traffig fyddai’n cael ei greu gan y datblygiad hwn.

    8. GWEFAN

    Adroddwyd gan y Cyng. O. Williams bod y gwaith ar y wefan newydd yn datblygu’n dda. Mae rhai tudalennau wedi’u diwygio ac wedi’u hanfon i’w cyfieithu. Mae hygyrchedd a pherfformiad y safle, a fesurwyd yn defnyddio offer arlein, yn dda iawn. Y gobaith yw y bydd fersiwn drafft ar gael erbyn y cyfarfod nesaf. Cyng. O. Williams

    9. CYFRIFON I’W TALU

    i) Mrs Jane Davies, Cyflog y Clerc ar gyfer Tachwedd, Siec Rhif 1380 £450.00

    Apêl y Pabi Coch, Cost Torch a Rhodd, Siec Rhif 1381 100.00

    CYFANSWM = £550.00

    10. UNRHYW FATER ARALL

    i) Diolchwyd am y gwaith a wnaed gan C.S.G. yn tocio’r canghennau oedd yn pwyso dros ffyrdd yn ardal Capel Isaac.

    ii) Pryderon yn parhau am y fynedfa o’r eiddo wrth ymyl Ystafell Ddarllen Manordeilo sy’n arwain at y briffordd gyhoeddus.

    Gan nad oedd rhagor i’w drafod, diolchodd y Cadeirydd i aelodau am fynychu a daeth y cyfarfod i ben am 9.25pm.

    9fed Rhagfyr 2020
    CADEIRYDD

  • Hydref 2020

    Cynhaliwyd cyfarfod Cyngor Cymuned Manordeilo a Salem o bell trwy Zoom am 7.30pm ar y 14eg Hydref 2020.


    PRESENNOL

    Cynghorwyr Alun Davies, Arwel Davies, Gwenfyl Evans, William Loynton, Andrew Thomas, Owen Williams a’r Cynghorydd Sir Joseph Davies.

    1. CROESO AC YMDDIHEURIADAU

    Cymerwyd y gadair gan y Cyng. O. Williams a chroesawodd bawb i’r cyfarfod. Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Kim Davies, Hubert Gwynne, Peter Harries a Doris Jones.

    Cytunwyd i ychwanegu Cyfrifon Blynyddol fel Eitem Agenda 4A.

    2. CADARNHAU COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL

    Cynigiwyd gan y Cyng. G. Evans, eiliwyd gan y Cyng. J. Davies a chytunwyd yn unfrydol bod cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar y 9fed Medi 2020 fel ag y maent wedi’u teipio a’u dosbarthu yn gywir.
    I’w harwyddo gan y Cadeirydd

    3. DATGANIADAU O DDIDDORDEB

    Derbyniwyd datganiad o ddiddordeb gan y Cyng. O. Williams yn Eitem Agenda 7 – PL/00286 (tir wrth ymyl ei gartref)

    4A. CYFRIFON BLYNYDDOL

    i) Hysbyswyd gan y Clerc bod yr archwiliwyr allanol Grant Thornton wedi cwblhau’r cyfrifon Blynyddol ar gyfer Cyngor Cymuned Manordeilo a Salem am y flwyddyn yn diweddu 31ain Mawrth 2020. Roedd yr archwiliwyr o’r farn bod eu hadolygiad yn foddhaol “ac nid oes unrhyw faterion wedi’u dwyn i’w sylw sy’n achosi pryder bod unrhyw ofynion deddfwriaethol a rheoliadol perthnasol heb eu cwrdd.” Nodwyd

    ii) Diolchodd y Cyng. O. Williams i’r Clerc am ei gwaith yn paratoi’r archwiliad.

    4. MATERION YN CODI

    4.4.4.4.4.4.4.5iv) Mae’r Clerc wedi ysgrifennu at Gyngor Sir Gaerfyrddin (C.S.G.) i ofyn am esboniad parthed y mannau penodol hynny o Dir Comin yn Salem. Clerc

    4.4.4.4.4.4.4.9. Hysbyswyd gan y Cyng. J. Davies bod y datblygiad Un Blaned ym Mhenybanc wedi’i atal am y tro a bod C.S.G. wedi gofyn i Lywodraeth Cymru adolygu ei pholisi. Mae C.S.G. o’r farn bod yna ormod o geisiadau o’r fath yn cael eu gwneud ar safleoedd sydd y tu allan i’r Cynllun Datblygu Lleol a bod y meini prawf yn hollol wahanol i’r rheini a weithredir ar gyfer ceisiadau eraill pan am ddatblygu yng nghefn gwlad. Mae’n ofynnol i ddatblygiadau Un Blaned gyflwyno prawf o sefydlu eu bod yn gynaliadwy o fewn pum mlynedd tra ei bod yn orfodol i ddatblygiadau eraill gyflwyno prawf llym o’i hyfywedd ac ati cyn caniatáu unrhyw ddatblygu. Bydd y Cyng. O. Williams yn drafftio llythyr gan gynnwys gwrthwynebiadau gwreiddiol y Cyngor Cymuned a’r pwyntiau a godwyd o’r adborth hwn ac anfoner ar ran y Cyngor Cymuned i C.S.G., yr AC a’r AS lleol a Llywodraeth Cymru. Cyng. O. Williams

    4.4.4.4.4.4.5xi) Hysbyswyd gan y Cyng. Alun Davies bod y gwaith o brynu hysbysfwrdd newydd mewn llaw ac y byddai’n gwneud ymholiadau gyda Centaframe. Cyng. Alun Davies

    4.4.4.11i) Cytunwyd y dylid cwympo’r ddwy goeden onnen sydd ag ‘ash dieback’ arnynt yng Nghaledfwlch. Bydd y Cyng. Alun Davies yn gwneud ymholiadau gyda’r sawl sydd i wneud y gwaith hwn. Cyng. Alun Davies

    5 vi) Parthed y Rheoleiddiwr Pensiynau, mae’r Clerc wedi cwblhau’r ail gofrestru ac ail wneud y datganiad ar ran y Cyngor fel y cyflogwr.

    5. GOHEBIAETH

    i) Cyfriflen Banc Lloyds dyddiedig 1af Hydref 2020 – gweddill o £14,541.77. Nodwyd

    ii) Llythyr gan y Cyng. D. Jenkins yn hysbysu’r Cyngor o’i ymddiswyddiad fel Cynghorydd am resymau personol. Cafodd hyn ei dderbyn yn ffurfiol a bydd y Clerc yn dweud wrth C.S.G. i gychwyn y broses o lanw’r swydd. Clerc

    iii) C.S.G. parthed Cofrestr o Etholwyr, anfonwyd at Gynghorwyr ac ar gyfer y wefan/cyfryngau cymdeithasol. Clerc

    iv) C.S.G. parthed ymestyn yr ymgynghoriad ar gyfer y CDLl Diwygiedig, eisoes wedi’i anfon at Gynghorwyr.

    Nodwyd

    v) Llywodraeth Cymru, Côd Ymddygiad Materion Gweithlu. Nodwyd

    vi) Cymorth Cynllunio Cymru parthed hyfforddiant. Nodwyd

    vii) Gwasanaeth Ambiwlans Cymru parthed archwiliadau diffribliwyr; Clerc i gysylltu ag Elusen Cariad Heart i ofyn a allant hwy ymgymryd â’r archwiliadau hyn. Clerc

    viii) Un Llais Cymru gwybodaeth am hyfforddiant, ymgynghoriadau a Llinell Gymorth BAME Cymru. Nodwyd

    ix) Elusen Cymru Hearts parthed diffribliwyr a hyfforddiant CPR. Nodwyd

    x) Canolfan Adeiladu Gweithredu Cymdeithasol parthed cyfleoedd cyflogaeth ar gyfer y rheini nad ydynt mewn addysg na chyflogaeth (NEETS). Gwefan/Cyfryngau Cymdeithasol

    xi) CFfI Sir Gâr, cais am gymorth ariannol. Chwef

    xii) CFfI Llangadog, cais am gymorth ariannol. Chwef

    6. ADOLYGIAD O’R GYLLIDEB

    Y fantolen Banc ar y 1af Hydref 2020 oedd £14,541.77. Mae un siec (Rhif 1376) am £450.00 heb ei chyflwyno gan roi ffigwr gwirioneddol o £14,091.77. Nodwyd

    7. CYNLLUNIO

    Derbyniwyd Datganiad o Ddiddordeb gan y Cyng. O. Williams unwaith eto yng Nghais Cynllunio PL/00286 (tir wrth ymyl ei gartref) ac ni chymerodd ran yn y drafodaeth na’r penderfyniad.

    Cytunwyd ar y sylwadau canlynol:

    • PL/00036
      Datblygiad Un Blaned
      Gwaredu Amod 5
      Cwrt Y Felin
      Tanerdy
      Rhosmaen
      Llandeilo
      SA19 7AF

      Holwyd am esboniad mewn perthynas â’r cais, ac yn dilyn holi Mr K. Phillips cadarnhawyd gan y Cyng. J. Davies bod y cais hwn yn ymwneud yn unig â gwaredu amod sy’n ymwneud â darparu tai fforddiadwy. Mae’r Cyngor Sir wedi cytuno nad yw’r cynnig am dai fforddiadwy yn un hyfyw. Felly, wneir y cais hwn er mwyn gwaredu’r amod

      DIM SYLWADAU
    • PL/000219
      Estyniad Ochr Un Llawr
      Troedyrhiw
      Taliaris
      Llandeilo
      SA19 7NN
      DIM SYLWADAU
    • PL/00286
       
      Adeiladu Annedd Fforddiadwy a Charafan Dros Dro
      Tir wrth ymyl Maes Y Dderwen
      Salem
      Llandeilo
      SA19 7PA

      Mae’r Cyngor yn gwrthwynebu oherwydd bod y safle y tu allan i’r CDLl ac felly’r ardal lle y caniateir datblygu. Hefyd mae’n ymddangos nad yw’r annedd arfaethedig yn gyson â’r term ‘tai fforddiadwy’.

    • PL/00342
      PL/00342Estyniad Ochr Un Llawr
      Tanylan
      Llandeilo
      SA19 7LW
      DIM GWRTHWYNEBIAD
    • PL/00405
      Ail-adeiladu Annedd a Garej ar wahân
      Greenlands
      Rhosmaen
      Llandeilo
      SA19 6NP
      DIM GWRTHWYNEBIAD
    • Pl/00572
      Estyniad Deulawr
      Llwyn yr Hebog
      Cwmifor
      Llandeilo
      SA19 7AS
      DIM GWRTHWYNEBIAD

    8. GWASANAETH COFIO

    i) Hysbyswyd gan y Clerc fod Eglwys Taliaris yn parhau ar gau ond ei bod yn bosib mynd i’r Gofeb er mwyn cynnal gwasanaeth byr. Y Clerc i drefnu rheoli’r traffig ar y cyd â’r heddlu, archebu torch a chysylltu ag awdurdodau’r Eglwys. Clerc

    ii) Gwirfoddolwyd gan y Cynghorwyr Alun Davies ac Arwel Davies i glirio a thacluso o amgylch y Gofeb. Cynghorwyr Alun Davies ac Arwel Davies

    9. CYFRIFON I’W TALU

    i) Mrs Jane Davies, Cyflog a Threuliau’r Clerc, Siec Rhif 1378 £579.99

    ii) H.L a A. W. Gwynne, Rhent Caledfwlch, Siec Rhif 1379 £50.00

    CYFANSWM = £629.99

    10. UNRHYW FUSNES ARALL

    Gan nad oedd rhagor i’w drafod, diolchodd y Cadeirydd i aelodau am fynychu a daeth y cyfarfod i ben am 9.25pm.

    11eg Tachwedd 2020
    CADEIRYDD

  • Medi 2020

    Cynhaliwyd cyfarfod Cyngor Cymuned Manordeilo a Salem o bell trwy Zoom am 7.30pm ar y 9fed Medi 2020.


    PRESENNOL

    Cynghorwyr Alun Davies, Kim Davies, Gwenfyl Evans, Peter Harries, Owen Williams a’r Cynghorydd Sir Joseph Davies.

    1. CROESO AC YMDDIHEURIADAU

    Cymerwyd y Gadair gan y Cyng. O. Williams a chroesawodd bawb i’r cyfarfod. Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Arwel Davies, Hubert Gwynne, Dorian Jenkins, Doris Jones, William Loynton ac Andrew Thomas.

    2. CADARNHAU COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF

    Cynigiwyd gan y Cyng. P. Harries, eiliwyd gan y Cyng. J. Davies a chytunwyd yn unfrydol bod cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar yr 8fed Gorffennaf 2020 fel ag y maent wedi’u teipio a’u dosbarthu yn gywir.
    I’w harwyddo gan y Cadeirydd

    3. DATGANIADAU O DDIDDORDEB

    Ni dderbyniwyd unrhyw Ddatganiadau o Ddiddordeb.

    4. MATERION YN CODI

    4.4.4.4.4.4.5iv) Mae dynodi’r Tir Comin yn Salem yn parhau ar waith. Clerc

    4.4.4.4.4.4.9.. Hysbyswyd gan y Cyng. J. Davies bod y datblygiad Un Blaned arfaethedig ym Mhenybanc wedi’i ohirio a bydd Cyngor Sir Gȃr (CSG) yn gwneud cyflwyniad i Gynghorwyr ar y datblygiadau hyn. Bydd y Cyng. Davies yn adrodd yn ôl yn y cyfarfod nesaf ac, yng ngoleuni’r wybodaeth, bydd y Cyng. O. Williams yn anfon llythyr yn amlinellu gwrthwynebiadau’r Cyngor Cymuned i ddatblygiadau Un Blaned i Gyngor Sir Gâr, AC Lleol, AS a Llywodraeth Cymru. Cyng. J. Davies/Cyng. O. Williams

    4.4.4.4.4.5xi) Hysbyswyd gan y Cyng. Alun Davies bod y gwaith o brynu hysbysfwrdd newydd mewn llaw ac y bydd yn trafod gyda Centaframe. Y Cyng. J. Davies i archwilio’r hysbysfwrdd y tu allan i Ystafell Ddarllen Manordeilo yn dilyn sgwrs gyda’r gofalwr. Cyng. Alun Davies/Cyng. J. Davies

    4.4.11i) Y Cyng. J. Davies i siarad â’r Cyng. H. Gwynne am y difrod i’r ffens a’r gangen sy’n plygu drosodd yng Nghaledfwlch ac a oes angen edrych i weld yr angen i wneud mwy o waith torri coed. Cyng. H. Gwynne/Cyng. J. Davies

    4.8 Mae’r archwilwyr allanol Grant Thornton wedi bod mewn cysylltiad mewn perthynas â’r Cyfrifon Blynyddol ac mae’r Clerc wedi darparu’r wybodaeth ychwanegol a ofynnwyd amdani.

    4.13ii) Rhannwyd ffotograffau o’r gwely blodau a blannwyd ar safle’r hen giosg ffôn yn Salem. Bydd planhigion megis y Ddraenen Wen, Rhosyn Gwyllt ac Ysgawen yn cael eu plannu yn y cae cymunedol wrth ymyl Neuadd Bentref Salem. Mae hyn i gyd wedi bod yn bosib trwy grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, Cadw Cymru’n Daclus.

    5. GOHEBIAETH

    i) Cyfriflen Banc Lloyds dyddiedig 1af Gorffennaf 2020 Taflen Rhif 30 – gweddill o £10,011.77. Nodwyd

    ii) Cyfriflen Banc Lloyds dyddiedig 31ain Gorffennaf 2020 Taflen Rhif 31 – gweddill o £9,461.77. Nodwyd

    iii) Cyfriflen Banc Lloyds dyddiedig 1af Medi Taflen Rhif 32 – gweddill o £14,871.77. Nodwyd

    iv) C.S.G. Nodyn atgoffa, ail randaliad yr Archebiant £6,000. Nodwyd

    v) C.S.G. Arolwg parthed cofebau yng ngoleuni’r pryder diweddar ynglyn â hiliaeth ac amrywiaeth. Cyng. K. Davies

    vi) C.S.G. Cyflwyniad Cod Hyfforddiant; Clerc i anfon ebost at sylw Cynghorwyr. Clerc/Pawb

    vii) C.S.G. Nodiadau Natur Sir Gâr a gynhyrchwyd gan y Swyddog Bioamrywiaeth ar ran Partneriaeth Natur Sir Gâr; Clerc i anfon ebost at Gynghorwyr. Clerc/Pawb

    viii) Y Rheoleiddiwr Pensiynau, ail gofrestru ac ail ddatgan fel cyflogwr. Clerc

    ix) Gwybodaeth gan Un Llais Cymru, yn cynnwys hyfforddiant, cylchlythyr di-carboneiddio, canllawiau ar gyfer ail-agor canolfan gymunedol, cyngor ar we-rwydo a thwyll ar lein. Nodwyd

    x) Cylchlythyr Awst Cyngor Iechyd Cymunedol Hywel Dda. Nodwyd

    xi) Trafodaeth Zoom Radio Beca/Bro360 ar fywyd wedi Covid. Nodwyd

    xii) Rhestr Chwarae caneuon, elusen cerddoriaeth demensia yn cynnig gwasanaeth am ddim er mwyn dod â hwyl a theimladau o bositifiaeth i bobl sy’n byw gyda demensia. Clerc i anfon y manylion ar ebost at y Cyng. G. Evans fel cynrychiolydd y Cyngor ar Grŵp Demensia Cyfeillgar Llandeilo a’r Cylch. Ychwanegwyd gan y Cyng. Evans yn ogystal â’r digwyddiad ‘Canu Ynghyd’ llwyddiannus iawn a gynhaliwyd yn y Neuadd Ddinesig, mae’r Grŵp hefyd wedi bod yn pobi cacennau bach gan ddosbarthu’r rhain yn Llandeilo dros yr Haf, gan godi ymwybyddiaeth o ddemensia a hyrwyddo’r neges o drefi ac amgylcheddau Demensia cyfeillgar.

    6. ADOLYGIAD O’R GYLLIDEB

    Y fantolen Banc ar y 1af Medi oedd £14,871.77; mae pob siec wedi’u cyflwyno Nodwyd

    7. CYNLLUNIO

    Cytunwyd gwneud y sylwadau canlynol:

    • PL/00034
      Gwaredu/Amrywio Amod 2
      Tawelfan
      Cwmifor
      Llandeilo
      SA19 7AW
      Mr M Morgan

      Mae’r Cyngor yn gwrthwynebu’r cais hwn am y rhesymau canlynol:

      • Yn wreiddiol rhoddwyd caniatâd am fynedfa ar y cyd i’r ffordd Sirol i’w rhannu gydag eiddo cyfagos. Mae mynedfa unigol ynghyd â wal bellach wedi’u hadeiladu yn Nhawelfan sy’n golygu bydd angen ail fynedfa i gerbydau yn yr eiddo cyfagos fydd llawer yn agosach i’r tro cas yn y ffordd. Felly ar sail diogelwch mae’r Cyngor yn gwrthwynebu.
      • Credir bod y wal wedi’i hadeiladu’n uwch na’r un metr a nodwyd yn flaenorol.
      • Mae’r gymeradwyaeth a roddwyd ar gyfer ymyl o borfa heb ei weithredu gyda chryn dipyn o lwyni a phlanhigion wedi’u plannu fydd yn y pendraw’n tyfu i uchder fydd yn effeithio ar welededd, yn enwedig yng ngoleuni’r ffaith nad oes yna ymlediad gwelededd cywir yn y fynedfa i’r eiddo.

    8. GWEFAN

    i) Amlinellwyd mewn manylder gan y Cyng. O. Williams, y gofynion cyfreithiol ar gyfer gwefan sy’n agored i’r cyhoedd, gan gynnwys manylion a diwyg llwytho dogfennau, codio, ffont a’r lliw y dylid eu defnyddio. Er mwyn llwyddo gyda hyn, mae angen ail-adeiladu gwefan y Cyngor yn llwyr, er mwyn iddi fod yn ddibynadwy, effeithlon a chwrdd â holl Reoliadau’r Llywodraeth.

    ii) Aeth y Cyng. Williams ymlaen i amlinellu rhinweddau’r tri chwmni sydd wedi cyflwyno dyfynbrisiau - Pontbren Web Services, Towy Web Designs a Vision ICT. Yn dilyn gohebu helaeth rhwng Cynghorwyr trwy ebost a rhagor o drafodaethau yn y cyfarfod, cytunwyd, er bod Pontbren yn ddewis drutach, bod ganddynt well arbenigedd i gwrdd ag anghenion y Cyngor.

    iii) Cynigiwyd gan y Cyng. Alun Davies, eiliwyd gan y Cyng. K. Davies ac roedd pawb yn unfrydol y dylai’r Cyngor dderbyn dyfynbris Pontbren Web Services am £1,100 i wneud y gwaith cychwynnol a £200 y flwyddyn i wneud gwaith lletya a chynnal a chadw’r safle.

    iv) Diolchwyd i’r Cyng. Williams am waith ymchwil trylwyr i’r hyn oedd ei angen a’r ffordd orau o gyflawni hynny.

    v) Bydd y wefan yn ddwyieithog.

    vi) Y Clerc i ysgrifennu at Pontbren Web Services yn cadarnhau. Clerc

    9. CYFARFODYDD SYDD I DDOD

    Cytunwyd yn unfrydol y dylai’r cyfarfodydd barhau i’w cynnal o bell trwy Zoom am y dyfodol rhagweladwy.

    10. ANFONEBAU I’W TALU

    i) Mrs Jane Davies, Cyflog y Clerc ar gyfer mis Medi, Siec Rhif 1376 £450.00

    ii) Pontbren Web Services, blaen-dal, Siec Rhif 1377 £330.00

    CYFANSWM = £780.00

    11. UNRHYW FATER ARALL

    Gan nad oedd rhagor i’w drafod, diolchodd y Cadeirydd i aelodau am fynychu a daeth y cyfarfod i ben am 9.02pm.

    14fed Hydref 2020
    CADEIRYDD

  • Gorffennaf 2020

    Cynhaliwyd cyfarfod Cyngor Cymuned Manordeilo a Salem o bell trwy Zoom am 8.20pm ar yr 8fed Gorffennaf 2020.


    PRESENNOL

    Cynghorwyr Alun Davies, Arwel Davies, Kim Davies, Gwenfyl Evans, Peter Harries, William Loynton, Doris Jones, Andrew Thomas, Owen Williams a’r Cynghorydd Sir Joseph Davies.

    1. CROESO AC YMDDIHEURIADAU

      Cymerwyd y Gadair gan y Cyng. O. Williams a chroesawodd bawb i gyfarfod mis Gorffennaf a rhannwyd gwybodaeth ynghylch trefniadau cynnal y cyfarfod. Mae agenda’r cyfarfod wedi’i osod ar y wefan gyda dolen pe bai aelodau’r cyhoedd am ymuno â’r cyfarfod.

      Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Hubert Gwynne a Dorian Jenkins.

    2. CADARNHAU COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF

      Cynigiwyd gan y Cyng. W. Loynton, eiliwyd gan y Cyng. J. Davies a chytunwyd yn unfrydol bod cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar y 10fed Mehefin 2020 fel ag y maint wedi’u teipio a’u dosbarthu yn gywir.
      Y Cadeirydd i’w Harwyddo

    3. DATGANIADAU O DDIDDORDEB

      Derbyniwyd datganiad o ddiddordeb gan y Cyng. J. Davies ar gyfer Eitem Agenda 7 – Cais Cynllunio E/40754. (Perthynas teuluol)

    4. MATERION YN CODI

      4.4.4.4.4.5iv) Mae dynodi’r Tir Comin yn Salem yn parhau ar waith. Clerc

      4.4.4.4.4.9. Bydd y Cyng. O. Williams yn anfon llythyr yn amlinellu gwrthwynebiadau’r Cyngor i ddatblygiadau Un Blaned at Gyngor Sir Gâr (C.S.G.) AC Lleol, AS a Llywodraeth Cymru. Cyng. O. Williams

      4.4.4.4.5xi) Mewn perthynas â phrynu hysbysfwrdd i Penybanc, gall y Cyng. Alun Davies weithio gyda Centaframe ynglyn â’r union fanyleb ac er mwyn darparu uned bwrpasol a hefyd cost. Cyng. Alun Davies

      4.4. 4.4.5viii) Mae ‘Towy Web Design’ wedi cyflwyno pris o £600 am gost sylfaenol creu gwefan newydd. Y Cyng. Williams i barhau gyda’i ymholiadau am ddylunwyr gwefannau arbenigol lleol. Cyng. O. Williams

      4.11i) Y Cyng. H. Gwynne i ymchwilio i’r ffens sydd wedi’i ddifrodi a’r gangen sy’n pwyso drosodd yng Nghaledfwlch. Cyng. W. Loynton i gymryd ffotograffau o’r ardal dan sylw. Cyng. H. Gwynne/Cyng. W. Loynton

      8. Mae llythyr o ddiolch wedi’i anfon at Mrs Wendy Phillips am gynnal yr archwiliad mewnol ar gyfer 2019/2020. Mae’r Cyfrifon Blynyddol wedi’u cwblhau ac mae’r papurau perthnasol wedi’u postio trwy wasanaeth postio arbennig i Grant Thornton ar y 15fed Mehefin 2020.

      13i) Adroddodd y Cyng. O. Williams bod y gwaith o ddosbarthu taflenni gwybodaeth Covid-19 i Manordeilo a Salem ar waith.

      13ii) Diolchodd y Cyng. P. Harries i’r Cyngor am ei fewnbwn ac adroddodd ar gynnydd y dyfarniad grant Cadw Cymru’n Daclus, Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.

      13iii) Adroddwyd bod Neuadd Bentref Salem ac Ystafell Ddarllen Cwmifor wedi bod yn llwyddiannus gan ennill £10,000 o arian Grant i Fusnesau Bach C.S.G.

      13iv) Mae’r Cyng. O. Williams wedi anfon y ddolen i Gynghorwyr gyda’r wybodaeth am lwybrau troed.

    5. GOHEBIAETH

      1. Anfonwyd ymddiheuriadau gan Swyddog Cymunedol yr Heddlu L. Lewis am fethu â mynychu’r cyfarfod. Adroddwyd am ddigwyddiad am ddyn yn ymddwyn yn amheus yn ardal Salem; mae’r heddlu wedi siarad â’r unigolyn gan roi cyngor priodol iddo. Dim materion eraill i adrodd amdanynt.
      2. Arolwg Llywodraeth Cymru i gefnogi adferiad ac adfywiad ar ôl Covid yng Nghymru – Clerc i anfon y ddolen at y Cynghorwyr ar ebost i’w gwblhau. PAWB
      3. Cylchlythyr Hywel Dda Mehefin Nodwyd
      4. Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed Powys – cyfarfod cyhoeddus rhithwir 10fed Gorffennaf. Nodwyd
      5. Apêl Cefnogi Covid 19 Llandeilo. Cynigiwyd gan y Cyng. Alun Davies, eiliwyd gan y Cyng. P. Harries a chytunwyd yn unfrydol i wneud rhodd o £100.00. Clerc i drefnu’r taliad. Clerc
      6. (Mae gohebiaeth arall gan gynnwys diweddariadau Coronafeirws Llywodraeth Cymru eisoes wedi’u dosbarthu trwy ebost neu’r post)
      7. (Mae gohebiaeth arall gan gynnwys diweddariadau Coronafeirws Llywodraeth Cymru eisoes wedi’u dosbarthu trwy ebost neu’r post)

    6. ADOLYGIAD O’R GYLLIDEB

      Ymddiheurodd y Clerc gan nad oes Cyfriflen banc wedi’i derbyn mewn pryd i’r cyfarfod. Mae’r swm gwirioneddol sydd yn y banc ar adeg y cyfarfod yn £10,521.77. Ers hynny mae dwy siec gwerth £600 wedi’u cyflwyno gan roi cyfanswm presennol o £9,921.77. Nodwyd

    7. CYNLLUNIO

      Fe wnaeth y Cyng. J. Davies ddatgan diddordeb unwaith eto ac ni chymerodd ran yn y drafodaeth na’r penderfyniad yn ymwneud â chais cynllunio E/40754.

      Cytunwyd ar y sylwadau canlynol:

      • E/40723
        Addasu Adeilad yn Annedd Preswyl
        Maesygroes
        Capel Isaac
        Llandeilo
        SA19 7NA
        S George
        DIM GWRTHWYNEBIAD
      • E/40754
        Adeilad neu Storfa Amaethyddol
        Maescastell
        Taliaris
        Llandeilo
        SA19 7NN
        Mr a Mrs Davies
        DIM GWRTHWYNEBIAD
    8. CYFRIFON I’W TALU

      1. i) Mrs Jane Davies, Cyflog y Clerc ar gyfer mis Gorffennaf a £50.00 taliad ex gratia, Siec Rhif 1373
      2. 500.00
      3. ii) Mrs Jane Davies, Cyflog y Clerc ar gyfer mis Awst, Siec Rhif 1374 450.00
      4. CYFANSWM £950.00

    9. UNRHYW FATER ARALL

      Parthed yr eiddo wrth ymyl Ystafell Ddarllen Manordeilo, mae’r perchnogion wedi’u gofyn i gyflwyno cais newydd am waith a wnaed i’r ardal o flaen yr eiddo, gwaith a ymgymerwyd ag ef yn groes i’r caniatâd cynllunio cychwynnol.

      Gan nad oedd rhagor i’w drafod, diolchodd y Cadeirydd i aelodau am fynychu a daeth y cyfarfod i ben am 9.00pm.

    9fed Medi 2020
    CADEIRYDD

  • Mehefin 2020

    Cynhaliwyd cyfarfod Cyngor Cymuned Manordeilo a Salem o bell ar Zoom am 7.30pm ar y 10fed Mehefin 2020.


    PRESENNOL

    Cynghorwyr Alun Davies, Arwel Davies, Gwenfyl Evans, Peter Harries, William Loynton, Andrew Thomas, Owen Williams a’r Cynghorydd Sir Joseph Davies.

    1. CROESO AC YMDDIHEURIADAU

      Cymerwyd y Gadair gan y Cyng. O. Williams a chroesawodd bawb i’r cyfarfod cyntaf yn hanes y Cyngor i’w gynnal o bell. Rhannwyd gwybodaeth drefniadol ar gyfer y cyfarfod gan y Cyng. O. Williams. Rhoddwyd agenda’r cyfarfod ar y wefan gyda dolen ar gyfer aelodau’r cyhoedd oedd am ymuno â’r cyfarfod. Hefyd rhoddwyd caniatâd gan bob un o’r Cynghorwyr i gymryd llun o’r sgrîn gyda’r mynychwyr i’w osod ar gyfryngau cymdeithasol y Cyngor.

      Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Kim Davies, Hubert Gwynne, Dorian Jenkins a Doris Jones.

      Diolchwyd i’r Clerc am ei gwaith yn ymgynghori ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Gynghorwyr am fusnes y Cyngor yn ystod y pandemig.

    2. CADARNHAU COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF

      Cynigiwyd gan y Cyng. P. Harries, eiliwyd gan y Cyng. W. Loynton ac roedd pawb yn unfrydol bod cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar yr 11eg Mawrth 2020 fel y cafwyd eu teipio a’u dosbarthu yn gywir.
      Y Cadeirydd i’w Harwyddo

    3. DATGANIADAU O DDIDDORDEB

      Fe wnaeth y Cyng. J. Davies ddatgan diddordeb mewn Ceisiadau Cynllunio E/40554 (busnes teuluol) a E/40590 (cysylltiad teuluol).

    4. MATERION YN CODI

      4.4.4.4.5iv) Mae’r dasg o ddynodi Tir Comin Salem dal ar waith. Clerc

      4.4.4.4.9. Bydd y Cyng. O. Williams yn anfon llythyr yn amlinellu gwrthwynebiad y Cyngor i ddatblygiadau Un Blaned i Gyngor Sir Gâr (C.S.G.) AC Lleol, AS a Llywodraeth Cymru. Cyng. O. Williams

      4.4.4.5xi) Mewn perthynas â phrynu hysbysfwrdd yn lle’r hen un ym Mhenybanc, derbyniwyd dau ddyfynbris un gan Greenbarnes Ltd (£1,035.34) a Broxap (£1,179.60). Mae cyflenwr lleol Centaframe yn medru cyflenwi elfennau unigol ar gost llawer iawn is, felly y Cyng. Alun Davies i gysylltu â Centaframe i drafod yr union ofynion er mwyn darparu uned a hefyd er mwyn derbyn pris. Cyng. Alun Davies

      4. 4.4.5viii) Mae’r Cyng. O. Williams hefyd yn gwneud ymholiadau am ddylunwyr gwefannau arbenigol lleol. Cyng. O. William

      Bydd y Cyng. H. Gwynne yn ymchwilio i’r difrod a wnaed i’r ffens a hefyd cangen sy’n plygu drosodd yng Nghaledfwlch. Cyng. H. Gwynne

    5. GOHEBIAETH

      • Banc Lloyds, Taflen Rif 27 dyddiedig 1af Ebrill 2020, Gweddill o £6,564.21 Nodwyd
      • Banc Lloyds, Taflen Rif 28 dyddiedig 1af Mai 2020, Gweddill o £12,306.87 Nodwyd
      • Banc Lloyds, Taflen Rif 29 dyddiedig 1af Mehefin 2020. Gweddill o £11,506.87 Nodwyd
      • Cylchlythyr Clercod a Chynghorau

      (Mae gohebiaeth arall eisoes wedi’i ddosbarthu trwy’r ebost neu’r post)

    6. ADOLYGIAD O’R GYLLIDEB

      Mae’r Gyfriflen Banc dyddiedig 15fed Mai 2020 yn rhoi gweddill o £11,506.87. Mae sieciau (Rhifau 1358, 1362, 1369 a 1370) sy’n werth £985.10 heb eu cyflwyno eto, gan roi cyfanswm gwirioneddol o £10,521.77. Nodwyd

    7. ASESIAD RISG

      Cymeradwywyd yr Asesiad Risg ar gyfer 2020/21, sydd eisoes wedi’i ddosbarthu i Gynghorwyr, yn unfrydol.

    8. CYFRIFON BLYNYDDOL AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31AIN MAWRTH 2020

      Hysbyswyd gan y Clerc bod archwiliad mewnol y Cyngor wedi’i gwblhau gan Mrs Wendy Phillips. Darllenwyd ei hadroddiad yn y cyfarfod, ac ni dynnwyd sylw at unrhyw faterion. Gofynnwyd i’r Clerc ysgrifennu at Mrs Phillips i ddiolch iddi am ei gwaith. Cyflwynwyd y Cyfrifon Blynyddol gan y Clerc a darllenwyd y Datganiad Llywodraethiant ar goedd a chytunwyd ar ymatebion. Cynigiwyd gan y Cyng. J. Davies, eiliwyd gan y Cyng. A. Thomas a chytunwyd yn unfrydol y dylid cymeradwyo’r Cyfrifon Blynyddol. Y Cyfrifon i’w harwyddo gan y Cadeirydd a’r Clerc/SCC RFO i’w cyflwyno, ynghyd â gwybodaeth arall a ofynnwyd amdano, i Grant Thornton yr archwilwyr allanol. Diolchwyd i’r Clerc am ei gwaith yn paratoi’r cyfrifon ar gyfer eu harchwilio. Cyng. O. Williams/Clerc

    9. TREFNIADAU AR GYFER Y CCB A CHYFARFODYDD O BELL

      • Cytunwyd yn unfrydol y dylid cynnal y CCB o bell ddydd Mercher 8fed Gorffennaf gyda Chyfarfod arferol mis Gorffennaf yn dilyn.
      • Cynigiwyd gan y Cyng. P. Harries, eiliwyd gan y Cyng. J. Davies a chytunwyd yn unfrydol, oherwydd amgylchiadau eithriadol y pandemig, y dylai’r swyddogion presennol – y Cadeirydd Cyng. O. Williams a’r Is-gadeirydd Cyng. K. Davies barhau yn eu swyddi tan i’r Cyngor gynnal ei CCB ar gyfer 2020.
      • Cyng. O. Williams a’r Clerc i adolygu’r Rheolau Sefydlog.
      Cyng. O. Williams/Clerc
    10. YSWIRIANT

      Hysbyswyd gan y Clerc bod adnewyddiad yswiriant y Cyngor wedi’i dderbyn gan Zurich Municipal ar gost o £277.10 (roedd premiwm y llynedd yn £276.01). Mae hyn yn cymharu â dyfynbris o £378.23 gan Norris a Fisher. Mae Zurich wedi bod yn yswirwyr i’r Cyngor am nifer o flynyddoedd a hysbyswyd gan y Clerc eu bod bob amser yn gefnogol ac yn barod i gynnig help. Gan bod amser wedi bod yn brin, mae’r premiwm eisoes wedi’i dalu cyn y dyddiad adnewyddu sef 1af Mehefin a gofynnwyd i’r Cyngor, os oeddynt yn cydsynio, i gadarnhau’r penderfyniad. Cytunwyd yn unfrydol i gymeradwyo adnewyddu’r yswiriant gyda Zurich Municipal ar gost o £277.10.

    11. CYNLLUNIO

      Cytunwyd i’r sylwadau canlynol ers cyfarfod mis Mawrth:

      • E/40480
        Adeilad Stôr Amaethyddol
        Byngalo Panteg
        Capel Isaac
        SA19 7TE
        R Lewis
        DIM GWRTHWYNEBIAD
      • E/40554
        Addasiadau ac Estyniad gyda Lloriau
        Fferm Cwmifor
        Cwmifor
        Llandeilo
        SA19 7AW
        G a L Davies
        DIM GWRTHWYNEBIAD
      • E/40556
                                    
        Estyniad Arfaethedig a Newidiadau Cysylltiol
        Tŷ Isaf
        Salem
        Llandeilo
        SA19 7LP
        P a B Eyre
        DIM GWRTHWYNEBIAD OND UN SYLW: Wedi’i leoli gyferbyn â chyffordd brysur, angen gofal i beidio ag amharu ar lif traffig. Yr estyniad yn edrych yn un sylweddol ond ychydig iawn o le er mwyn parcio’n ddiogel o flaen y ty heb i hynny stopio traffig neu greu amodau anniogel er mwyn mynd heibio.
      • E/40590
        Newid Defnydd o Adeilad Amaethyddol i Gybiau Magu Cŵn
        Maescastell
        Taliaris
        Llandeilo
        SA19 7N
        G a J Davies
        DIM SYLWADAU
      • E/40544 a E/405346
        Amrywiol Waith Diogelu Coed yn Nantyrhibo, Llandeilo
        DIM GWRTHWYNEBIAD
    12. CYFRIFON I’W TALU

      Cadarnhawyd y taliadau canlynol:

      1. C.S.G., goleuadau llwybrau troed a chynnal a chadw Ebrill 2019 – Mawrth 2020, Siec Rif 1361        £4,400.64
      2. Swyddfa Comisiynydd Gwybodaeth, ffi diogelu data blynyddol, Siec Rif 1362                                   £40.00
      3. H.L. a A.W. Gwynne, rhent chwe mis am Caledfwlch, Siec Rif 1363                                                         £50.00
      4. ‘Vision ICT Ltd’, ffi blynyddol am letya a chefnogi’r wefan, Siec Rif 1364                                          £150.00
      5. Cyng. O. Williams, ad-daliadau am brynu eitemau Amazon ar gyfer staff Ysbyty Glangwili, Siec Rif 1365      £207.34
      6. C.S.G., gwaith cynnal a chadw Caledfwlch, Siec Rif 1366  Siec a gollwyd canslo                                 £168.00
      7. Maryellens yn 139, Hamperi Bwyd staff GIG, Siec rif 1367 £200.00
      8. Mrs Jane Davies, Cyflog mis Ebrill y Clerc, Siec Rif 1368 £450.00
      9. ‘Zurich Municipal’, Yswiriant y Cyngor, Siec Rif 1369 £277.10
      10. Mrs Jane Davies, Cyflog mis mai’r Clerc ac Ad-daliad Bil y Cyngor £168, Siec Rif 1370 £618.00
      11. CYFANSWM £6,393.08

        Cymeradwywyd gwneud y taliadau canlynol:

        1. Mrs Wendy Phillips, Archwiliad Mewnol, Siec Rif 1371 £150.00
        2. Mrs Jane Davies, Cyflog mis Mehefin y Clerc, Siec Rif 1372 £450.00

        CYFANSWM £600.00

    13. UNRHYW FATER ARALL

      • Hysbyswyd gan y Clerc bod cefnogaeth y Cyngor i staff sy’n gweithio ar linell flaen y GIG yn Ysbyty Glangwili wedi cael derbyniad da ac wedi’i werthfawrogi’n fawr. Mae’r Adran Ffisiotherapi wedi elwa o’r seddi cyfforddus a brynwyd ar gyfer eu hystafell staff a staff y Ward Covid 19 am yr hamperi bwyd a anfonwyd unwaith yr wythnos am bedair wythnos. Diolchwyd i’r Cyng. O. Williams ac i’r Clerc am gydlynu’r gwaith.

        Soniwyd gan y Cyng. O. Williams bod taflenni Covid 19 a gynhyrchwyd gan C.S.G. wedi’u dosbarthu i gartrefi a bod y taflenni hynny ar gyfer Cyngor Cymuned Manordeilo a Salem yn cynnwys manylion cyswllt y Clerc.

        Gofynnwyd i Gynghorwyr ystyried ffyrdd eraill all y Cyngor gynorthwyo cymunedau lleol yn ystod y pandemig hwn. PAWB

      • Hysbyswyd gan y Cyng. P. Harries am grant diweddar sydd ar gael gan Cadw Cymru’n Taclus, Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, Pecyn Dechreuol. Ychydig iawn o amser sydd wedi bod i ystyried ceisiadau a rhoddwyd sicrwydd y byddai Cynghorau Cymuned yn llwyddiannus. Mae’r Cyng. P. Harries a’r Clerc wedi cyflwyno cais gyda’r bwriad y bydd Clwb Garddio Salem yn gwneud gwelliannau i’r ardal lle’r oedd y ciosg ffôn yn arfer bod yng nghanol y Pentref ac o bosib ar dir sydd wrth ymyl, ac yn eiddo i, Neuadd Bentref Salem. Mae’r Cyngor wedi bod yn llwyddiannus ac wedi derbyn pecyn Gardd Pili Pala. Derbyniodd y prosiect hwn gymeradwyaeth unfrydol.
      • Hysbyswyd gan y Cyng. J. Davies bod grantiau busnesau bach ar gael i neuaddau cymuned a chymhwyster Pentref Salem ac Ystafell Ddarllen Manordeilo i dderbyn grant. Cyng. J. Davies
      • Mae’r Cyng. W. Loynton wedi derbyn ymholiad mewn perthynas a llwybrau troed; y Cyng. O. Williams i anfon dolen gyda’r wybodaeth ato. Cynghorwyr O. Williams a W. Loynton
      • Tynnwyd digwyddiadau diweddar byd eang, sy’n tynnu sylw at anghyfartaledd a gwahaniaethu a digwyddiad lleol, i sylw’r Cynghorwyr a thrafodwyd. Cytunwyd y dylai Cynghorwyr bob amser fod yn ymwybodol, gan weithredu yn erbyn, unrhyw wahaniaethu yn erbyn hil neu unrhyw grŵp lleiafrifol.

      Gan nad oedd rhagor i’w drafod, diolchodd y Cadeirydd i aelodau am fynychu a daeth y cyfarfod i ben am 8.53pm.

    8fed Gorffennaf 2020
    CADEIRYDD

  • Mawrth 2020

    Cynhaliwyd cyfarfod Cyngor Cymuned Manordeilo a Salem am 7.30pm ar yr 11eg Mawrth 2020 yn yr Ystafell Ddarllen, Cwmifor.


    PRESENNOL

    Cynghorwyr Alun Davies, Kim Davies, Gwenfyl Evans, Hubert Gwynne, Peter Harries, William Loynton, Andrew Thomas, Owen Williams a’r Cynghorydd Sir Joseph Davies.

    1. CROESO AC YMDDIHEURIADAU

      Cymerwyd y Gadair gan y Cyng. O. Williams a chroesawodd bawb i’r cyfarfod. Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Dorian Jenkins a Doris Jones.

    2. CADARNHAU COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF

      Cynigiwyd gan y Cyng. W. Loynton, eiliwyd gan y Cyng. G. Evans ac roedd pawb yn unfrydol bod cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar y 12fed Chwefror 2020 fel ag y maent wedi’u teipio a’u dosbarthu yn gywir.
      Arwyddwyd gan y Cadeirydd

    3. DATGANIADAU O DDIDDORDEB

      Dim.

    4. MATTERS ARISING

      4.4.4.5iv) Mae’r dasg o ddynodi Tir Comin Salem dal ar waith. Clerc

      4.4.4.9. Bydd y Cyng. O. Williams yn anfon llythyr yn amlinellu gwrthwynebiad y Cyngor i ddatblygiadau Un Blaned at Gyngor Sir Gâr (C.S.G.) AC Lleol, AS a Llywodraeth Cymru. Cyng. O. Williams

      4.4.5xi) Mewn perthynas â phrynu hysbysfwrdd yn lle’r hen un ym Mhenybanc, derbyniwyd dau ddyfynbris gan Greenbarnes Ltd (£1,035.34) a Broxap (£1,179.60). Mae cyflenwr lleol Centaframe yn medru cyflenwi elfennau unigol ar gost llawer iawn is, felly y Cyng. Alun Davies i gysylltu â Centaframe i drafod yr union ofynion er mwyn darparu uned a hefyd er mwyn derbyn pris. Cyng. Alun Davies

      4.4.5viii) Mae’r Cyng. O. Williams hefyd yn gwneud ymholiadau am ddylunwyr gwefannau arbenigol lleol. Cyng. O. William

      5iv) Mae’r Gynhadledd Cynghorau Tref a Chymuned oedd i’w chynnal ar y 18fed Mawrth wedi’i gohirio.

      5viii) Adroddodd y Cyng. O Williams ar y weithdrefn archwilio llymach arfaethedig y mae Swyddfa Archwilio Cymru yn ei hystyried. Ar hyn o bryd mae yna ymgynghori’n digwydd, os y caiff ei gymeradwyo bydd y weithdrefn yn cael ei gweithredu dros gyfnod o dair blynedd a bydd yn archwiliad manylach.

      7ii) Mae’r golau stryd yng Nghaledfwlch Cwmifor wedi’i drwsio.

    5. GOHEBIAETH

      • Banc Lloyds, Taflen Rhif 26 dyddiedig 28ain Chwefror 2020, Gweddill o £12,278.37. Nodwyd
      • C.S.G. parthed estyniad i gyfnod ymgynghori’r Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig tan 27ain Mawrth 2020. Nodwyd
      • C.S.G. heol C2218 Capel Isaac i Benybanc i gau dros dro. Nodwyd
      • C.S.G. heol U4038 Brodawel Penybanc i U4014 Castell Howell Llandeilo i gau dros dro. Nodwyd
      • Digwyddiadau rhanddeiliaid Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol. Nodwyd
      • Cyfarfod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Ysbyty Llanymddyfri 17eg Mawrth. PAWB
      • Un Llais Cymru parthed gwefannau Cynghorau a rheoli coed. Cyng. O. Williams/Clerc
      • Cylch Meithrin Ffairfach, cais am gymorth ariannol. Cynigiwyd gan y Cyng. H. Gwynne, eiliwyd gan y Cyng. Alun Davies a chymeradwywyd rhoi rhodd o £50.00. Clerc
      • Ynni Sir Gâr parthed darparu mannau gwefru trydan. Clerc i ddod o hyd i gost y trydan. Clerc
      • Gwahoddiad i Rali Flynyddol CFfI Sir Gâr.
      • Derbyniwyd diolch am roddion wrth y Cyngor gan Gymdeithas Chwaraeon Llandeilo a’r Cylch, CISS, Ymddiriedolaeth Gofalwyr ac Ymddiriedolaeth Profedigaeth ‘Cruse’.
      • Llangollen 2020 cais am gymorth ariannol. Gwrthodwyd.
      • Y Lloffwr ac Ymddiriedolaeth Profedigaeth ‘Cruse’, cais am gymorth ariannol. Chwefror
    6. ADOLYGIAD O’R GYLLIDEB

      Mae’r Gyfriflen banc dyddiedig 28ain Chwefror 2020 yn rhoi gweddill o £12,278.37. Mae sieciau (Rhifau1348 – 1357) gwerth £625 heb eu cyflwyno ac yn rhoi cyfanswm gwirioneddol o £11,653.37. Nodwyd
    7. GOLEUADAU

      1. Nodwyd bod y goleuadau stryd yn Salem wedi’u newid yn lampau LED a bod gwaith tebyg yn digwydd yng Nghwmifor ar hyn o bryd.
    8. LLWYBRAU TROED

      Dim i’w drafod.
    9. CYNLLUNIO

      Cytunwyd i’r canlynol:

      E/39554

      Datblygiad Un Blaned Annedd Teulu – Cynlluniau Diwygiedig

      Caergroes

      Penybanc

      Llandeilo

      SA19 6TB

      M a C Denney-Price

      DIM SYLWADAU PELLACH I’W HYCHWANEGU I’R RHEINI A WNAED I’R CAIS GWREIDDIOL

    10. ANFONEBAU I’W TALU

      Cymeradwywyd gwneud y taliadau canlynol:

      • Cylch Meithrin Ffairfach, Rhodd, Siec Rhif 1358 £50.00
      • Syrfewr JED Cyfyngedig, Gwasanaethau Cyfieithu, Siec Rhif 1359 238.52
      • Mrs J Davies, Cyflog y Clerc Mawrth, Siec Rhif 1360 450.00

      CYFANSWM £738.52

    11. UNRHYW FATER ARALL

      • Adroddwyd am ffens sydd wedi’i ddifrodi a changen sy’n plygu drosodd yng Nghaledfwlch. Dywedodd y Cyng. H. Gwynne y byddai’n ymchwilio i’r mater. Cyng. H. Gwynne
      • Nodwyd bod wal y ffin gyda’r eiddo sydd wrth ymyl Ystafell Ddarllen Manordeilo yn cael ei hadeiladu ac yn mynd yn erbyn caniatâd cynllunio.

      Gan nad oedd rhagor i’w drafod, diolchodd y Cadeirydd i aelodau am fynychu a daeth y cyfarfod i ben am 8.35pm.

    8fed Ebrill 2020
    CADEIRYDD

  • Chwefror 2020

    Cynhaliwyd cyfarfod Cyngor Cymuned Manordeilo a Salem am 7.30pm ar y 12fed Chwefror 2020 yn Ystafell Ddarllen, Cwmifor.


    PRESENNOL

    Cynghorwyr Alun Davies, Arwel Davies, Gwenfyl Evans, Doris Jones, William Loynton, Owen Williams a’r Cynghorydd Sir Joseph Davies.

    1. CROESO AC YMDDIHEURIADAU

      Cymerwyd y Gadair gan y Cyng. O. Williams a chroesawodd bawb i’r cyfarfod. Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Kim Davies, Hubert Gwynn, Peter Harries, Dorian Jenkins ac Andrew Thomas.

    2. CADARNHAU COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF

      Cynigiwyd gan y Cyng. D. Jones, eiliwyd gan y Cyng. J. Davies ac roedd pawb yn gytun bod cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar yr 8fed Ionawr 2020 fel ag y maent wedi’u teipio a’u dosbarthu yn gywir.
      Arwyddwyd gan y Cadeirydd

    3. DATGANIADAU O DDIDDORDEB

      Derbyniwyd Datganiadau gan y canlynol:
      Eitem 10, Rhoddion Ariannol – Cynghorwyr Arwel Davies a J. Davies mewn perthynas â Sioe Llandeilo a CFfI Llandeilo. Cyng. Alun Davies mewn perthynas â Chymdeithas Chwaraeon Llandeilo a’r Cylch a Sioe Llandeilo.

    4. MATERION YN CODI

      4.4.5iv) Mae’r gwaith o ddynodi Tir Comin yn Salem yn parhau ar waith. Clerc

      4.4.9. Bydd y Cyng. O. Williams yn anfon llythyr yn amlinellu gwrthwynebiad y Cyngor i ddatblygiadau Un blaned i Gyngor Sir Gâr (C.S.G.) AC Lleol, AS a Llywodraeth Cymru. Cyng. O. Williams

      4.5xi) Mewn perthynas â phrynu hysbysfwrdd newydd yn lle’r hen un ym Mhenybanc, ni lwyddwyd dod o hyd i gyflenwyr lleol. Derbyniwyd dyfynbris am £1,035.34, wedi’i wneud o ddeunydd a ailgylchwyd, ac yn sefyll ar ddau bolyn, drws gwydr sengl (maint 6 x A4). Gofynnwyd am ddyfynbris arall ac mae’r Clerc yn aros am hwnnw a hefyd gofynnwyd i’r Clerc ofyn i Centaframe i weld a fyddent yn medru creu strwythur o’r math hwn a hefyd y gost. Clerc

      4.5viii) Mae’r Cyng. O. Williams yn chwilio er mwyn gwneud ymholiadau am ddylunwyr lleol arbenigol ar gyfer creu gwefannau. Cyng. O. William

      Mae C.S.G. wedi cadarnhau derbyn Cais y Cyngor am Archebiant o £18,000 ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020/2021.

    5. GOHEBIAETH

      i) Banc Lloyds, Taflen Rhif 24 dyddiedig 31ain Rhagfyr 2019, Gweddill o £13,740.26. Nodwyd

      ii) Banc Lloyds, Taflen Rhif 25 dyddiedig 31ain Ionawr 2020, Gweddill o £13,262.26. Nodwyd

      iii) C.S.G. parthed Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig a gyhoeddwyd er ymgynghori. Nodwyd

      iv) Cynhadledd Cynghorau Tref a Chymuned, 18fed Mawrth. Cyng. O. Williams

      v) Cyfarfod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda parthed Ysbyty Llanymddyfri 14eg Chwefror. Awgrymwyd gan y Cyng. J. Davies y dylai cymaint o gynghorwyr â phosib fynychu oherwydd fe allai dyfodol yr ysbyty effeithio ar lawer o bobl leol. PAWB

      vi) Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda parthed newid mewn gwasanaeth o’r 9fed Mawrth. Nodwyd/Gwefan

      vii) Llywodraeth Cymru, cyflwyno lleiafswm o 50c fesul uned o alcohol o’r 2il Mawrth. Nodwyd

      viii) Swyddfa Archwilio Cymru parthed ymgynghoriad ar gyfer trefniadau archwilio i Gymru yn y dyfodol. Cyng. O. Williams

      ix) Aelodaeth Un Llais Cymru. Cynigiwyd gan y Cyng. D. Jones, eiliwyd gan y Cyng. Arwel Davies ac roedd pawb yn gytun y dylid adnewyddu aelodaeth. Clerc

      x) Anfoneb Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer archwilio allanol. Cynigiwyd gan y Cyng. O. Williams, eiliwyd gan y Cyng. D. Jones ac roedd pawb yn unfrydol y dylid ei dalu. Clerc

      xi) Gus Hellier, Swyddog Coed Cymru, Sir Gaerfyrddin parthed cynllun Creu Coetir Glastir ar gyfer Llwyn yr Hebog. Clerc i ymateb i gefnogi’r Cynllun. Clerc

      xii) Gwahoddiad i Wasanaeth Diolchgarwch Dinesig y Maer 1af Mawrth. Cyng. K. Davies

      xiii) Un Llais Cymru parthed Gwanwyn Glân Cymru, Amserlen Ariannol i Gynghorau Tref, ymgynghoriadau. Nodwyd

      xiv) Meysydd Chwarae Cymru. Nodwyn

      xv) Gwybodaeth parthed diwrnod ‘VE’ a Theyrnged i Rôl merched yn yr Ail Ryfel Byd. Nodwyd

    6. ADOLYGIAD O’R GYLLIDEB

      Mae Cyfriflen Banc dyddiedig 31ain Ionawr 2020 yn rhoi gweddill o £13,262.26. Mae pob siec wedi’i chyflwyno.
    7. GOLEUADAU

      i) Mae’r golau stryd yn Salem a oedd â nam arno wedi’i drwsio. ii) Adroddwyd bod yna olau stryd yng Nghaledfwlch sy’n fflachio, Clerc i adrodd am hyn i C.S.G. Clerc
    8. LLWYBRAU TROED

      Dim i’w drafod.
    9. CYNLLUNIO

      Cytunwyd i’r canlynol:

      1. Gwaredu Amod 7 (Dymchwel a Gwaredu Sied Sinc cyn Meddiannu Ysgubor)
      2. Penlongoed
      3. Banc y Gyri
      4. Llandeilo
      5. SA19 6AX
      6. Mr P Williams
      7. DIM GWRTHWYNEBIAD
    10. RHODDION ARIANNOL

      Cytunwyd rhoi’r canlynol: CFfI Llandeilo - £100, Ambiwlans Awyr Cymru - £100, Cymdeithas Chwaraeon Llandeilo a’r Cylch - £100, Sioe Amaethyddol a Garddwriaethol Llandeilo - £50, Gwybodaeth am Ganser a Gwasanaethau Cefnogi - £50, Ffederasiwn CFfI Sir Gâr - £50, Ymddiriedolaeth Gofalwyr ‘Crossroads’ Sir Gâr - £50 Canolfan Therapi Plant Bopath Cymru - £50, Gofal mewn Profedigaeth ‘Cruse’ - £50, Clwb Garddio Salem - £25

    11. POLISI BIOAMRYWIAETH

      4.4.4.5xi) Polisi’r Cyngor ar gynnal a chadw a gwella bioamrywiaeth i’w weithredu trwy geisiadau cynllunio, annog a chefnogi mudiadau lleol i wella golwg yr ardal a phrynu eitemau megis meinciau a hysbysfyrddau wedi’u gwneud o ddeunydd sydd a ailgylchwyd. Clerc
    12. CYFRIFON I’W TALU

      Cymeradwywyd gwneud y taliadau canlynol:

      i) Aelodaeth Un Llais Cymru 2020/21, Siec Rhif 1345 £248.00

      ii) Swyddfa Archwilio Cymru, archwiliad allanol ar gyfer y flwyddyn yn diweddu Mawrth 2019, Siec Rhif 1346 £183.75

      iii) Mrs Jane Davies, Cyflog a Threuliau’r Clerc ar gyfer Chwefror, Siec Rhif 1347 £552.14

      Rhoddion

      iv) Clwb Garddio Salem, Siec Rhif 1348 £25.00

      v) Gofal mewn Profedigaeth ‘Cruse’, Siec Rhif 1349 £50.00

      vi) Canolfan Therapi Plant Bopath Cymru, Siec Rhif 1350 £50.00

      vii) Ymddiriedolaeth Gofalwyr ‘Crossroads’ Sir Gâr, Siec Rhif 1351 £50.00

      viii) Ffederasiwn CFfI Sir Gâr, Siec Rhif 1352 £50.00

      ix) Cymdeithas Chwaraeon Llandeilo a’r Cylch, Siec Rhif 1353 £100.00

      x) Ambiwlans Awyr Cymru, Siec Rhif 1354 £100.00

      xi) Gwybodaeth am Ganser a Gwasanaethau Cefnogi, Siec Rhif 1355 £50.00

      xii) CFfI Llandeilo, Siec Rhif 1356 £100.00

      xiii) Sioe Llandeilo, Siec Rhif 1357 £50.00

      CYFANSWM £1,608.89

    13. UNRHYW FATER ARALL

      Gan nad oedd rhagor i’w drafod, diolchodd y Cadeirydd i aelodau am fynychu a daeth y cyfarfod i ben am 9.05pm.

    11feg Mawrth 2020
    CADEIRYDD

  • Ionawr 2020

    Cynhaliwyd cyfarfod Cyngor Cymuned Manordeilo a Salem am 7.30pm ar yr 8fed Ionawr 2020 yn Ystafell Ddarllen, Cwmifor.


    PRESENNOL

    Cynghorwyr Alun Davies, Arwel Davies, Kim Davies, Peter Harries, Doris Jones, Andrew Thomas a’r Cynghorydd Sir Joseph Davies.

    1. CROESO AC YMDDIHEURIADAU

      Cymerwyd y Gadair gan y Cyng. K. Davies a chroesawodd bawb i’r cyfarfod. Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Gwenfyl Evans, Dorian Jenkins, William Loynton a Owen Williams.

    2. CADARNHAU COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF

      Cynigiwyd gan y Cyng. P. Harries, eiliwyd gan y Cyng. J. Davies ac roedd pawb yn gytun bod cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar yr 11eg Rhagfyr 2019 fel ag y maent wedi’u teipio a’u dosbarthu yn gywir.
      Arwyddwyd gan y Cadeirydd

    3. DATGANIADAU O DDIDDORDEB

      Dim.
    4. MATERION YN CODI

      4.4.5xi) Mewn perthynas â drafftio polisi ar gynnal a chadw a gwella bioamrywiaeth, elfennau y dylid cymryd i ystyriaeth pan yn ystyried ceisiadau cynllunio, y ddarpariaeth bosib o osod blychau blodau a phrynu eitemau megis meinciau a hysbysfyrddau wedi’u gwneud o ddeunydd wedi’i ailgylchu. Cynghorwyr i ddod â syniadau i’w trafod yng nghyfarfod mis Chwefror. PAWB

      4.5iv) Mewn perthynas â Chomin Salem, bydd y Cyng. Arwel Davies yn darparu map o’r ardal er mwyn i’r Clerc wneud ymholiadau am hyn gyda Chyngor Sir Gâr (C.S.G.) Cyng. Arwel Davies/Clerc

      4.9. Bydd y Cyng. O. Williams yn drafftio llythyr yn amlinellu gwrthwynebiadau’r Cyngor i ddatblygiadau Un Blaned a anfoner i C.S.G., Aelod Cynulliad Lleol, Aelod Seneddol a Llywodraeth Cymru. Fe hysbyswyd gan y Cyng. J. Davies bod gwrthwynebwyr lleol wedi cwrdd â Adam Price AC i drafod eu pryderon a gwthio am strategaeth genedlaethol i ddelio gyda’r fath geisiadau. Fe ddywedodd Mr Price y byddai’n mynd â’r mater hwn yn ôl i Lywodraeth Cymru. Cyng. O. Williams

      5x) Mewn perthynas â phryderon a phroblemau yn ymwneud â mynediad i briffyrdd gan gerbydau mawr o ganlyniad i ddatblygiad newydd ym Mhenybanc, mae Mr Thomas, un o’r trigolion wedi diolch i’r Cyngor a’r Cynghorydd Sir Joseph Davies am wneud ymholiadau am hyn.

      5xi) Cytunwyd i brynu hysbysfwrdd newydd ar gyfer Penybanc, y ffrâm i’w wneud o ddeunydd sydd wedi’i ailgylchu, i’w osod ar ddau bolyn, drws gwydr sengl (maint 6 x A4). Clerc i chwilio am gyflenwyr lleol os oes yna rai er mwyn dod o hyd i ddyfynbrisau. Clerc

      5viii) Mae’r Cyng. O. Williams yn ymchwilio i’r gofynion cyfreithiol ar gyfer gwefan y Cyngor. Cyng. O. Williams

      10. Mae fersiwn terfynol o Reoliadau Ariannol y Cyngor wedi’u dosbarthu i Gynghorwyr ar gyfer eu cofnodion ac er mwyn iddynt fedru cyfeirio atynt.

    5. CORRESPONDENCE

      1. Banc Lloyds, Cyfriflen Dros Dro, gweddill o £8,406.93 ar 24ain Rhagfyr 2019. Nodwyd
      2. C.S.G. Nodyn Talu, trydydd rhandaliad o’r Archebiant £5,333.33. Nodwyd
      3. C.S.G. Fforwm Craffu i hyrwyddo gwaith y Pwyllgorau Craffu.Nodwyd
      4. C.S.G. Ffair Adeilad Cofrestredig 9fed Chwefror 2020.Nodwyd
      5. Un Llais Cymru, Ymgynghoriad parthed Ffioedd Ymgeisio am Gynllunio.Nodwyd
      6. Cylchgrawn Cyfeirlyfr Clercod a Chynghorau.
    6. ADOLYGIAD O’R GYLLIDEB

      I’w drafod o dan Eitem Agenda 10

    7. GOLEUADAU

      Nam ar un o’r goleuadau stryd yn Salem; Clerc i adrodd i C.S.G. nodwyd hefyd fod yna saith o oleuadau ar hyd yr A40 yn Rhosmaen nad ydynt yn gweithio. Clerc i adrodd i C.S.G. i’w anfon at Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru. Clerc

    8. LLWYBRAU TROED

      Dim i’w drafod.
    9. CYNLLUNIO

      Cytunwyd i’r canlynol:

      • E/39931 Addasu Adeilad yn Annedd Preswyl
      • Pyllaucoediog
      • Taliaris
      • Llandeilo
      • SA19 7NF
      • Mr a Mrs Davies
      • DIM GWRTHWYNEBIAD
      • E/39960 Addasiadau, Estyniad ac Ailfodelu
      • 8 Golwg Y Gaer
      • Salem
      • Llandeilo
      • SA19 7PA
      • Mr B Ranns
      • DIM GWRTHWYNEBIAD
      • E/40042 Adeiladau Amaethyddol ar gyfer Cadw Porthiant a Ciwbiclau
      • Croesnant
      • Capel Isaac
      • Llandeilo
      • SA19 7ES
      • DT a EG Evans
      • DIM GWRTHWYNEBIAD

      Nodwyd parthed Cais am Ganiatâd E/30303, annedd gyferbyn ag Ystafell Ddarllen Manordeilo, bod Torri Rhybudd Cydsynio wedi’i gyflwyno mewn perthynas â’r mur amgylchynol sy’n cael ei adeiladu ar hyn o bryd.

    10. ARCHEBIANT 2020-2021

      Yn dilyn trafodaeth, cynigiwyd gan y Cyng. Arwel Davies, eiliwyd gan y Cyng. P. Harries ac roedd pawb yn unfrydol bod y Cais am Archebiant ar gyfer 2020-2021 i’w osod ar £18,000. Clerc i gwblhau’r gwaith papur angenrheidiol a’i gyflwyno i C.S.G. Clerc

    11. CYFRIFON I’W TALU

      Cymeradwywyd y taliadau canlynol:

      1. Ystafell Ddarllen Manordeilo, Llogi Neuadd, Hydref a Thachwedd 2019, Siec Rhif 1343 £28.00
      2. Mrs Jane Davies, Cyflog y Clerc Rhagfyr, Siec Rhif 1344 £450.00

      CYFANSWM £478.00

    12. UNRHYW FATER ARALL

      1. Mae’r Clerc wedi siarad ag aelod o Adran Briffyrdd C.S.G. parthed safle’r cyn giosg ffôn yn Salem. Hysbyswyd ganddo ei bod yn rhan o’r briffordd gyhoeddus a, hyd nes y daw rhagor o dystiolaeth i’r gwrthwyneb cytunwyd y gellid ei ddefnyddio ar gyfer plannu blodau.
      2. Mae bin sbwriel newydd wedi’i osod yn lle’r un oedd yno ger Ystafell Ddarllen Manordeilo yng Nghwmifor.

      Gan nad oedd rhagor i’w drafod, diolchodd y Cadeirydd i’r aelodau am fynychu a daeth y cyfarfod i ben am 8.45pm.

    12fed Chwefror 2020
    CADEIRYDD

Older Minutes (PDF)