Neidio i'r prif gynnwy

Cyngor Cymuned Manordeilo a Salem

Dogfennau

Ar y dudalen hon

Adroddiadau Blynyddol

Gweld yr Adroddiad Blynyddol 2020-21

Gweld yr Adroddiad Blynyddol 2020-21

View of Salem
Ffotograff gan y Cyng. William Loynton. Golygfa o Ddyffryn Tywi a Bannau Sir Gâr.

Mae Cyngor Cymuned Manordeilo a Salem yn cynrychioli ac yn gwasanaethu dwy Ward sef Cwmifor a Salem ac yn cynnwys y cymunedau hynny oddi amgylch sef Manordeilo, Rhosmaen, Penybanc, Capel Isaac a Thaliaris.

Cynnwys

  1. Pwy Ydym Ni
  2. Swyddogaethau A Chyfrifoldebau
  3. Ein Nodau a’r Hyn Rydym Yn Ei Wneud
  4. Manylion Cyswllt
  5. Atodiad A – Rhestr Cynghorwyr
  6. Atodiad B – Cyfrifon Archwiliedig Ebrill 2019 – Mawrth 2020
View of Manordeilo
Ffotograff gan y Cyng. Owen Williams. Golygfa o Gwmifor o’r de gyda Choedwig Taliaris yn y cefndir.

Pwy Ydym Ni

Mae deuddeg Cynghorydd yn eistedd ar Gyngor Cymuned Manordeilo a Salem, saith yn cynrychioli Ward Cwmifor a phump yn cynrychioli Ward Salem. Mae rhestr lawn o’r Cynghorwyr a’u manylion cyswllt ar gael yn Atodiad A.

Fel arfer cynhelir cyfarfodydd ail ddydd Mercher y mis am 7:30yh yn Ystafell Ddarllen Manordeilo (heblaw am fis Awst pan nad oes cyfarfod). Fodd bynnag yn ystod y pandemig Covid-19, cynhelir cyfarfodydd o bell ar Zoom a bydd y trefniant hwn yn parhau nes yr hysbysir yn wahanol.

Mae rhan fwyaf o gyllid y Cyngor yn dod o’i Archebiant. Mae hwn yn swm ychwanegol a ychwanegir i’ch bil treth y Cyngor ac mae’n cael ei seilio ar amcangyfrifiad o wariant y Cyngor Cymuned. Swm yr archebiant ar gyfer y flwyddyn Ebrill 2020 – Mawrth 2021 yw £18,000.00.

Mae’r cyfrifon archwiliedig ar gyfer y flwyddyn yn diweddu 31ain Mawrth 2020 (y cyfrifon archwiliedig diweddaraf sydd ar gael) yn Atodiad B.

Swyddogaethau a Chyfrifoldebau

Cyfleusterau a Phrosiectau Cymunedol

Er enghraifft:

  • Meinciau
  • Diffibrilwyr
  • Hysbysfyrddau
  • Cyfraniadau ariannol at achosion ac elusennau lleol

Priffyrdd

Er enghraifft:

  • Cyflwr ffyrdd ac arwyddion
  • Y goleuadau stryd hynny sy’n cael eu talu amdano gan y Cyngor Cymuned
  • Materion traffig

Yr Amgylchedd

Er enghraifft:

  • Bioamrywiaeth
  • Cyflwr Llwybrau troed

Cynllunio

Er enghraifft:

  • Fel rhan o’r Cynllun Datblygu Lleol mae’n ofynnol i’r Cyngor gymryd rhan yn yr ymgynghori ar holl geisiadau cynllunio ein hardal

Ein Nodau a Sut Rydym Yn Cwrdd Ȃ Nhw

NOD – Bod yn Rhagweithiol trwy:

  • Groesawu aelodau’r gymuned i fynychu ein cyfarfodydd yn gorfforol ac o bell. Rhoddir manylion mewngofnodi ar yr agendâu sydd ar ein gwefan a chyfryngau cymdeithasol.
  • Lansiwyd gwefan newydd yn ddiweddar manordeilosalemcc.org.uk sy’n cynnwys gwybodaeth am ymgynghoriadau, digwyddiadau ac amrywiaeth o wybodaeth ddefnyddiol. Mae’r wefan yn hollol hygyrch i bob oed a gallu, un o’r ychydig safleoedd sy’n cwrdd â’r safonau uchel a nodir mewn Rheoliadau Llywodraeth yn ddiweddar. Rydym yn ddiolchgar i ‘Pontbren Web Services’ a leolir ym Mhenybanc am ddatblygu’r safle newydd gwych hwn; ewch i gael gweld a rhowch wybod i ni beth chi’n meddwl.
Website Screeenshots
Sgrinlun o dudalen gatref gwefan newydd y Cyngor Cymuned.
  • Un o’r cynghorau cymuned cyntaf yng Nghymru i sefydlu tudalennau Facebook ac Instagram. Rydym yn defnyddio’r rhain er mwyn ymgysylltu â chynulleidfa ehangach ar draws ein cymuned ac er mwyn hyrwyddo ein hardal. Hoffwch ein tudalen Facebook ar https://www.facebook.com/manordeiloandsalemcc/ a dilynwch ni ar Instagram @manordeiloandsalemcc.
  • Cynhyrchu adroddiadau tebyg i’r rhain er mwyn diweddaru ein cymuned am sut rydym yn gwasanaethu ac yn cynrychioli buddiannau.

NOD – Bod yn gefnogol trwy:

  • Roi bwyd ac eitemau eraill i’n harwyr GIG lleol yn ystod pandemig y Coronafeirws. Arwydd bach o werthfawrogiad oedd y rhain ar ran y gymuned am eu gwaith caled ac ymroddiad yn Ysbyty Glangwili.
  • Mae rhoddion i Grŵp Cefnogaeth Covid Llandeilo wedi cynorthwyo nifer o deuluoedd ac unigolion yn ein cymunedau.
  • Cynorthwyo gyda Grŵp Cydgymorth Covid-19 Salem.
  • Dosbarthu taflenni yn yr ardal gyda gwybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael.
  • Gosod y newyddion diweddaraf wythnosol am y Coronafeirws gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Sir Gâr ar ein gwefan ac ar lwyfannau’r cyfryngau cymdeithasol.
Hospital Staff
Staff yn gweithio ar wardiau Covid a’r Adran Ffisiotherapi yn Ysbyty Glangwili gydag eitemau a gyflwynwyd iddynt gan y Cyngor Cymuned.

NOD –Gwella Ansawdd Bywyd Cymunedau trwy:

Ddarparu diffibrilwyr:

Mae’r diffibrilwr diweddaraf wedi’i leoli y tu allan i ‘All Small Engines’ ym Manordeilo. Ariannwyd yr uned hon trwy gyfuniad o godi arian yn lleol a hefyd rhodd gan y Cyngor Cymuned. Mae ein diolch yn mynd i’r Cynghorydd Sir Joseph Davies am drefnu cyfres o ddigwyddiadau yn Ystafell Ddarllen Manordeilo; Gyrfaoedd Chwist i Nosweithiau Bingo er mwyn codi arian gwerthfawr tuag at y gost o brynu diffibrilwr ond hefyd er mwyn cael hwyl gan ddod â’r hen a’r ifanc ynghyd.

The new defibrillator being presented to Cllr. Owen Willians
Cadeirydd Ystafell Ddarllen Manordeilo, Cynghorwyr Cymuned a’r Clerc yn derbyn diffibrilwr newydd gan gynrychiolydd o’r Elusen Cariad Heart.

Mae diffibrilwyr ar gael yn:

  • Neuadd Bentref Salem
  • Ystafell Ddarllen Manordeilo
  • Festri Capel Isaac
  • Tafarn y Plough Rhosmaen yng nghefn y gwesty ond mae mynediad iddo 24 awr y dydd
  • Milfeddygon Teilo, Stâd Ddiwydiannol Beechwood, Heol Talyllychau, Llandeilo
  • ‘All Small Engines’, Manordeilo

Byddwn hefyd yn cynnal rhagor o sesiynau hyfforddiant cymorth cyntaf sylfaenol a sut i ddefnyddio diffibrilwr pan fydd yr amgylchiadau’n caniatáu.

Cyflwyno rhoddion ariannol:
Rydym yn blaenoriaethu elusennau a mudiadau a leolir oddi fewn i ffiniau ardal y Cyngor Cymuned a hefyd y rheini sy’n cynnig gwasanaethau sydd o fudd uniongyrchol i aelodau o’n cymuned. Mae rhoddion diweddar yn cynnwys:

  • Urdd Gobaith Cymru
  • Ambiwlans Awyr Cymru
  • Cymdeithas Chwaraeon Llandeilo a’r Cyffiniau
  • Clwb Ffermwyr Ifanc Llandeilo
  • Apêl Pabi Coch Y Lleng Brydeinig Frenhinol
  • Clwb Garddio Salem
  • Cymdeithas Trigolion Salem
  • Ffederasiwn CFfI Sir Gâr
  • Gŵyl Y Goeden - Salem
  • Gofal mewn Galar Cruse
  • Canolfan Therapi Plant Bobath Cymru
  • Ymddiriedolaeth Gofalwyr ‘Crossroads’ Sir Gâr
  • Gwybodaeth Canser a Gwasanaethau Cefnogi
  • Sioe Llandeilo

Cefnogi Neuadd Bentref Salem ac Ystafell Ddarllen Manordeilo:Rydym yn parhau i gefnogi’r mudiadau cymunedol gwerthfawr hyn yn ôl yr angen.

Flowerbed
Gwely o flodau a grëwyd yn Salem ar safle’r hen giosg ffôn. Ariannwyd gan Cadwch Gymru’n Taclus Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, sy’n enghraifft dda o waith partneriaeth rhwng Cymdeithas Trigolion Salem a’r Cyngor Cymuned.

Bod yn Rhan o Grŵp Dementia Gyfeillgar Llandeilo a’r Cyffiniau
Y Cynghorydd Gwenfyl Evans sy’n cynrychioli’r Cyngor ar y Grŵp hwn sydd â’r nod o godi ymwybyddiaeth o’r cyflwr ymysg masnachwyr y Dref a’r cyhoedd yn gyffredinol, er mwyn dangos sut all pawb chwarae rhan yn helpu’r rheini sy’n byw â dementia, fedru byw bywyd mwy cysurus. Mae digwyddiadau’n cynnwys ‘Canu Ynghyd’ yn Neuadd Ddinesig Llandeilo lle wnaeth nifer da fynychu a chael mwynhad. Mae’r Grŵp hefyd wedi bod yn brysur yn pobi cacennau a gosod stondin yng nghanol Llandeilo ar sawl achlysur dros yr haf. Mae’r digwyddiadau hyn yn gymorth er mwyn rhannu gwybodaeth a chefnogi’r rheini sydd â dementia.

NOD – Gweithio mewn Partneriaeth trwy

  • Gysylltu gyda Chynghorau Tref a Chymuned eraill, Cyngor Sir Gaerfyrddin a Llywodraeth Cymru. .
  • Aelodaeth o Un Llais Cymru
    Y Cynghorydd Owen Williams sy’n ein cynrychioli ni ar Un Llais Cymru, sef y prif fudiad ar gyfer cynghorau tref a chymuned yng Nghymru. Rydym yn cymryd rhan mewn cyfarfodydd Pwyllgor Ardal Canolbarth Cymru ac yn mynychu hyfforddiant a digwyddiadau ymgynghorol sy’n cyfarwyddo ein dulliau o weithredu trwy ddysgu am ymarfer da.
  • Aelodaeth o Fforwm Cysylltu Sir Gâr
    Rydym yn un o’r aelodau wnaeth sefydlu’r fforwm hwn ac mae’r Cynghorydd Owen Williams, fel cynrychiolydd y Cyngor, yn mynychu cyfarfodydd gyda chynghorau tref a chymuned eraill ar draws y Sir. Mae cyfarfodydd yn cynnwys cynghorwyr a swyddogion o’r Cyngor Sir ac Un Llais Cymru. Rydym yn cyfrannu at flaenoriaethau cyllideb y Cyngor Sir ac yn cynorthwyo i osod yr agenda er mwyn gweithredu ar draws y sir.
  • Aelodaeth o Fforwm Rhanddeiliaid Allweddol ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin
    Rydym yn cyfrannu i ddatblygiad y broses gynllunio fel un o ddim ond tri chyngor cymuned gwledig ar draws y sir sydd â chynrychiolaeth ar y corff hwn.

Diolch am ddarllen ein Hadroddiad Blynyddol. Os oes gennych chi unrhyw bryderon neu syniadau y byddai o fudd wrth eu rhannu i wella llesiant ein cymunedau yna cysylltwch. Mae ein manylion cyswllt i’w gweld isod. Hefyd ewch i’n gwefan a chwiliwch ar ein cyfryngau cymdeithasol am y newyddion diweddaraf a hefyd am yr hyn sy’n digwydd yn ein cymunedau.

Manylion Cyswllt:

ATODIAD A – Rhestr Cynghorwyr

Salem Ward

Gwenfyl Evans
Croesnant, Capel Isaac, Llandeilo SA19 7ES
01558 85322
Peter Harries
Crud Yr Awel, Salem, Llandeilo SA19 7LY
01558 823075
Doris Jones
Fferm Maesteilo, Capel Isaac, Llandeilo SA19 7TG
01558 68826
Owen Williams
Maesydderwen, 1 Golwg y Gaer, Salem, Llandeilo SA19 7PA
01558 822061
Lle gwag

Cwmifor Ward

Alun Davies
Trefwri, Rhosmaen, Llandeilo SA19 7AF
01558 823954
Arwel Davies
Erwlon, Manordeilo, Llandeilo, SA19 7BG
01550 777571
Kimberley Davies
Tŷ’r Orsaf Glanrhyd, Manordeilo, Llandeilo, SA19 7BR
01550 777930
Joseph Davies (County Cllr)
5 Ger Y Llan, Cwmifor, Llandeilo SA19 7AW
01558 822167
Hubert Gwynne
Coedmawr, Manordeilo, Llandeilo SA19 7BS
01558 822219
William Loynton
7 Caledfwlch, Cwmifor, Llandeilo SA19 7BT
01558 823627
Andrew Thomas
Nantwgan, Fferm Brynwgan, Llandeilo, SA19 7LE
01558 822449

ATODIAD B – Cyfrifon Archwiliedig ar gyfer y flwyddyn yn diweddu Mawrth 2020

Cyngor Cymuned Manordeilo a Salem
Cyfrifon Blynyddol 1af Ebrill 2019 – 31ain Mawrth 2020

INCWM
03/04/19 - Elw Noson Bingo 29/03/19
£236.00
26/04/29 - Elw Noson Bingo 25/04/19
£135.00
26/04/19 - C.S.G. Archebiant 1
£5,333.33
12/06/19 - Elw Gyrfa Chwist 29/05 a Noson Bingo 31/05
£327.00
28/08/18 - C.S.G. Archebiant 2
£5,333.33
29/10/29 - Balans cau trosglwyddiad o’r Cyfrif HSBC
£21.49
27/12/19 - C.S.G. Archebiant 3
£5,333.33
CYFANSWM INCWM
£16719.49
Balans yn y Banc cyn 29ain Mawrth 2019
£5,641.69
Incwm a hefyd y balans yn y banc cyn 29ain Mawrth 2019
£22,361.18
Llai’r sieciau sydd heb eu cyflwyno: 1291-£50.00, 1295-£100.00, 1296-£100.00, 1300-£50.00
£300.00
Is Gyfanswm
£22,061.18
GWARIANT
Costau Staff
5,360.00
Taliadau Gorfodol i Gynghorwyr
£150.00
Gweinyddiaeth Gyffredinol
£1,568.31
Lwfans y Cadeirydd
£220.00
Llwybrau troed, Hysbysfyrddau, Cofeb
£0.00
Goleuadau Llwybrau troed –ynni a chynnal a chadw
£4,400.64
Rhoddion
£1,275.00
Gwasanaethau Cyfieithu
£575.62
Prynu diffibrilwr
£1400.00
Prynu Gliniadur
£499.00
Arall
£138.40
CYFANSWM GWARIANT
£15,586.97
Gwariant
£15,586.97
Incwm minws y gwariant
£6,474.21
Cyfriflen Banc ar 27ain Mawrth 2020
£6,564.21
Llai’r Sieciau sydd heb eu cyflwyno: 1362-£40.00, 1358-£50.00
£90.00
Balans Terfynol 27ain Mawrth 2020
£6,474.21
Gweld yr Adroddiad Blynyddol 2018-19 - (Saesneg)

Annual Report – 2018-19

View of Salem

Contents

  1. Contact Details
  2. Who We Are And The Area We Represent
  3. What We Do
  4. Our Funding
  5. Our Aims
  6. Appendix A – List of Councillors
  7. Appendix B - Audited Accounts April 2017 – March 2018
View of Salem

Contact Details:

Who We Are And The Area We Represent

Manordeilo and Salem Community Council covers the two Wards of Cwmifor and Salem and encompasses the surrounding communities of Manordeilo, Rhosmaen, Penybanc, Capel Isaac and Taliaris.

View of Manordeilo

Membership of the Community Council is made up of twelve Councillors: seven representing the Cwmifor Ward and five the Salem Ward. A full list of Councillors and their contact details are available on the Council’s website www.manordeilosalemcc.org.uk and in Appendix A.

Meetings are held on the second Wednesday of each month (there is no meeting in August) at 7.30pm at the Manordeilo Reading Room at which members of the public are welcome to attend.

We are a member of One Voice Wales, the umbrella organisation for town and community councils across Wales, which provides advice and training on matters related to Council business.

What We Do

Community Councils act as a voice for their local area, representing the views of local people on matters that affect them. The Manordeilo and Salem Community Council exists to represent the community to the Carmarthenshire County Council and other public bodies, and also to facilitate a range of services and activities that promote the wellbeing of residents.

Often the point of contact for local people regarding their concerns, we can either address these issues directly where they fall under our statutory powers and competencies, or we can forward them to the correct department within the County Council. We also work closely with our County Councillor who sits on the Community Council.

Our roles and responsibilities include

  • Planning: Community Councils have a statutory right to be consulted on applications for planning permission and the Community Council has a special role, representing a broader, yet still local, view which can be set alongside the comments of those with a more individual interest. Observations are submitted to the Local Planning Authority and these are taken into account in the decision-making process.
  • Street Lighting: The Community Council has responsibility for maintaining street lighting and paying the cost of electricity.
  • Maintain/purchase benches and notice boards.
  • Financial donations: The Community Council receives a large number of requests for financial support during the year and priority is given to charities and organisations based within and bordering the Community Council area or ones that offer services that directly benefit the community. Financial requests are normally considered each February; in exceptional circumstances and where there is a time constraint, applications may be considered at other times.

During the 2017-18 financial year donations were made to the following organisations:

Carmarthen and District Youth Opera, The Royal British Legion Poppy Appeal, Gwyl Y Goeden Salem, Y Lloffwr, Cruse Bereavement Care, Urdd Gobaith Cymru Sir Gar, Carmarthenshire Federation of Young Farmer’s Clubs, Macmillan Cancer Support , Cancer Information and Support Services, Llandeilo Young Farmers Club, Cylch Meithrin Ffairfach, Tenovus Cancer Care, Children’s Wales Air Ambulance and Llandeilo and District Sports Association.

Footpaths: in liaison with the County Council.

Bluebell in a wood

Website, Facebook and Instagram: The Council has set up its own website (www.manordeilosalemcc.org.uk) which provides information about the Council, events, surveys and consultations that affect local people as well as useful links to services. We were also one of the first community councils in Wales to establish Facebook (www.facebook.com/manordeiloandsalemcc) and Instagram (@manordeiloandsalemcc) pages in an attempt to engage with a wider audience and especially the younger generation.

Provision of defibrillators: Our successful grant application in 2017 enabled us to provide units outside Salem Village Hall, Manordeilo Reading Room, Capel Isaac Vestry and at the rear of The Plough Inn Rhosmaen. In response to a request from the community for an additional unit at Beechwood, we supported a community campaign that included a fund raising event at Salem, donations from local businesses and a contribution from the Community Council itself. This was an excellent example of working in partnership for the general wellbeing of the community. In conjunction with the provision of these units, a series of training sessions have been delivered across the community council area in basic first aid training and defibrillator use, which we will continue to support in the future.

Engaging with other public bodies/organisations: As a member of One Voice Wales, we are represented on the Mid Wales Area Committee and regularly attend training and consultation events. Through these events we learn best practice ways of working in the sector and contribute to the development of local governance across Wales. We also routinely contribute to the Carmarthenshire Liaison Forum, which includes representatives from town and community councils across the county, as well as councillors and officers from the County Council and One Voice Wales. This is an especially influential forum in contributing to the setting of budget priorities for the County Council. Finally, we are one of just three rural community councils represented on the Key Stakeholder Forum for the Carmarthenshire Local Development Plan, which gives us an important voice within the development planning process.

Support Salem Village Hall and Manordeilo Reading Room: We have recently supported these valuable community institutions with grant funding for a new kitchen, the purchase of a keyboard and in the running of whist drives and other social events.

Salem village HallManordeilo reading room

Funding

The Council derives most of its funds from its Precept. This is an additional sum that is added to the County Council tax bill based upon the Community Council’s estimated expenditure. The precept figure for the financial year April 2018 to March 2019 is £15,000. The Council’s audited accounts for the financial year ending 31st March 2018 can be found on the Council’s website and in Appendix B.

Our Aims

We aim to be proactive in consulting and engaging with local residents in order to effectively represent our community. To this end, we have set up our website on which we publish our agendas, minutes and accounts and share information on other social media platforms. We will continue to develop these channels of communication and engagement in an attempt to encourage more awareness of the work of the Council and to encourage greater participation by all age groups within our communities. The production of this report is also a further tool to inform and engage with local people.

We aim to provide more defibrillators across our community and provide training sessions to local residents on their use.

We aim to develop the existing positive working partnership with the local authority, neighbouring town and community councils and other agencies for the mutual benefit of our communities.

We aim to encourage and facilitate more coming together of the communities within our area for the mutual benefit of all.

APPENDIX A

Salem Ward

Gwenfyl Evans
Croesnant, Capel Isaac, Llandeilo SA19 7ES
01558 85322
Peter Harries
Crud Yr Awel, Salem, Llandeilo SA19 7LY
01558 823075
Doris Jones
Maesteilo Farm, Capel Isaac, Llandeilo SA19 7TG
01558 68826
Owen Williams
Maesydderwen, 1 Golwg y Gaer, Salem, Llandeilo SA19 7PA
01558 822061

Cwmifor Ward

Alun Davies
Trefwri, Rhosmaen, Llandeilo SA19 7AF
01558 823954
Arwel Davies
Erwlon, Manordeilo, Llandeilo, SA19 7BG
01550 777571
Kimberley Davies
Glanrhyd Station House, Manordeilo, Llandeilo, SA19 7BR
01550 777930
Joseph Davies (County Cllr)
5 Ger Y Llan, Cwmifor, Llandeilo SA19 7AW
01558 822167
Hubert Gwynne
Coedmawr, Manordeilo, Llandeilo SA19 7BS
01558 822219
William Loynton
7 Caledfwlch, Cwmifor, Llandeilo SA19 7BT
01558 823627
Andrew Thomas
Nantwgan, Brynwgan Farm, Llandeilo, SA19 7LE
01558 822449

APPENDIX B

Audited Accounts For Financial Year Ending 31st March 2018

INCOME
26/04/17 - C.C.C. Precept 1
£4,666.66
25/08/17 - C.C.C. Precept 2
£4,666.67
27/12/17 - C.C.C. Precept 3
£4,666.67
TOTAL INCOME
£14,000.00
Bank Balance b/f 31st March 2017
£3,061.84
Income plus bank balance b/f as at 31st March 2017
£17,061.84
Less cheques not presented: 1212 for £100.00
£100.00
Sub Total
£16,961.84
EXPENDITURE
Staff Costs
£4,910.00
General Administration
£1,355.55
Chairperson's Allowance
£220.00
Footpaths, Notice Boards, Monument
£476.05
Footway Lighting-energy and maintenance
£4,034.74
Donations
£925.00
Translation Services
£445.48
Other
£429.98
TOTAL EXPENDITURE
£12,796.80
Expenditure
£12,796.80
Income minus expenditure
£4,165.04
Bank Statement as at 31st March 2018
£4,315.04
Less Cheques not presented: 1247-£50.00,1257-£100.00
£150.00
Closing Balance 31st March 2018
£4,165.04

Cyfrifon

Rhoddion Ariannol

2022 – 2023

Yn ystod y flwyddyn ariannol 2022/2023 mae Cyngor Cymuned Manordeilo a Salem wedi gwneud y rhoddion canlynol:

  • Tregib Sports Facilities Ltd (£500.00)
  • Llandeilo Young Farmers Club (£250.00)
  • Urdd Cylch Blaenau Tywi (£200.00)
  • Urdd Adran Llyn y Fan (£200.00)
  • Llandeilo Junior Rugby Football Club (£200.00)
  • Llandeilo Junior Football Club (£200.00)
  • Llandeilo Rugby Football Club (£200.00)
  • The Welsh Air Ambulance Charitable Trust (£150.00)
  • St Paul’s Parish Church, Manordeilo (Graveyard Account) (£100.00)
  • Manordeilo Reading Room, Cwmifor (£100.00)
  • The Royal British Legion Poppy Appeal (£100.00)
  • Carmarthenshire Federation of Young Farmers Clubs (£100.00)
  • Tenovus Cancer Care (£100.00)
  • Kids Cancer Charity (£100.00)
  • Cancer Information and Support Services South West Wales (£100.00)
  • Urdd Llandeilo, Manordeilo and Salem, Dyffryn Cennen Appeal (£100.00)
  • Y Lloffwr (£50.00)

Taliadau i Aelodau Etholedig

BlwyddynEnw'r CynghoryddLwfans y CadeiryddTeithio a
cynhaliaeth
treuliau
Arall - Taliad Gorfodol i GynghorwyrCyfanswm
2022/23Cyng. Owen Williams£150.00
Cyng. Sally Newell£150.00
Cyng. Peter Harries£220.00
£520.00
2021/22Cyng Owen Williams£150.00
Cyng Andrew Thomas£220.00£370.00
2020/21Cyng. Owen Williams£220.00£150.00£370.00
2019/20Cyng. Owen Williams£220.00£150.00£370.00
2018/19Cyng. Alun Davies£220.00£220.00
2017/18Cyng. Gwenfyl Evans£220.00£220.00
2016/17Cyng. Joseph Davies£220.00£220.00
2015/16Cyng. Peter Harries£200.00£200.00
 Cyng. Owen Williams £25.20£25.20
  £225.20

Yn unol ag Adran 151 o Fesur Llywodraeth Leol 2011, rhaid i Gynghorau Cymuned a Thref gyhoeddi yn eu hardal awdurdod y gydnabyddiaeth a gafodd eu haelodau erbyn 30 Medi yn dilyn diwedd y flwyddyn ariannol flaenorol. Dylai'r wybodaeth hon hefyd gael ei hanfon at Banel Taliadau Annibynnol Cymru erbyn yr un dyddiad. Mae angen ffurflenni dim hefyd. Cyfeiriwch at Atodiad 4 o adroddiad blynyddol y Panel am fanylion.

Rheolau Sefydlog (Saesneg)

Mae holl bolisīau’r Cyngor ar gael yn Gymraeg ar gais. Cysylltwch â’n Clerc am fwy o wybodaeth. Ein nod yw cyhoeddi cyfieithiadau llawn maes o law.