Neidio i'r prif gynnwy

Cyngor Cymuned Manordeilo a Salem

Datganiad Hygyrchedd

Dyluniwyd y wefan hon i gwrdd â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) 2.1, lefel AA yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd 2018 Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif.2). Am ragor o wybodaeth gweler Deall gofynion hygyrchedd i gyrff y sector cyhoeddus.

Cyngor Cymuned Manordeilo a Salem sy’n cynnal y wefan hon. Rydym am i gymaint o bobl â phosib allu defnyddio’r wefan. Dylech chi allu:

Mae’r holl destun a dolenni yn meddu ar gymhareb gyferbynnedd o 4.5:1 o leiaf ac mae’r safle wedi’i brofi i weld pa mor hawdd ydyw i’w ddarllen yn ddefnyddio ‘Protanomaly’, ‘Deuteranomaly’, ‘Tritanomaly’, ‘Achromatopsia’ a cholli cyferbynnedd.

Lle mae ‘JavaScript’ neu dechnolegau eraill wedi’u defnyddio i ddarparu cynnwys deinamig neu well elfennau Rhyngweithiad Defnyddiwr mae priodoleddau ARIA wedi’u defnyddio er mwyn i’r cynnwys fod yn fwy hygyrch i bobl ag anableddau. Mae’r holl gynnwys ar gael heb Javascript. Trosolwg WAI-ARIA.

Mae’r testun sydd ar y wefan mor syml â phosib i’w ddeall.

Nid yw rhai rhannau o’r wefan hon yn hygyrch i bawb, megis hen gofnodion o gyfarfodydd y cyngor a dogfennau cyfreithiol a ddarparwyd ar ein cyfer a sydd heb eu strwythuro’n addas i’w defnyddio gan ddarllenydd sgrin (meini prawf llwyddiant WCAG 2.1 4.1.2). Nid yw’r dogfennau hanesyddol hyn wedi’u haddasu i HTML oherwydd swmp a chymhlethdod y gwaith o orfod gwneud hyn, fodd bynnag os nad ydych yn gallu cael mynediad i gofnodion cyfarfod arbennig cysylltwch â ni ac fe wnawn ein gorau i’w haddasu i chi. Dylid nodi bod y cofnodion hanesyddol hyn wedi’u haddasu yn PDF sy’n galluogi llefaru.

Os nad ydych yn medru cael mynediad i rannau o’r wefan hon, neu angen gwybodaeth mewn diwyg gwahanol megis print bras, fersiwn hawdd i’w darllen, recordiad sain neu Braille, anfonwch ebost atom neu ffoniwch ac fe wnawn ein gorau i’ch cynorthwyo chi.

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os gwelwch unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu os ydych yn meddwl nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â: andy@pontbren.com gyda theitl y dudalen a natur y broblem.

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd 2018 Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus â’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).